Plaid Cymru i ddal i bwyso ar yr economi yn eu cynhadledd wanwyn
- Cyhoeddwyd
Heb etholiad cenedlaethol ar y gorwel am ddwy flynedd, does dim syndod nad oes cyffro mawr am dymor cynadleddau gwleidyddol y gwanwyn eleni.
Plaid Cymru sy'n dechrau'r tymor, ac maen nhw'n mentro i Fiwmares ar Ynys Môn.
Mae arweinydd y blaid, Leanne Wood, wedi dweud eisoes na fydd unrhyw gyhoeddiadau polisi mawr dros y penwythnos.
Cyfle i arddangos polisïau'r blaid fydd y deuddydd ar y fam ynys; gwella'r economi, hybu economi werdd a chreu swyddi.
Fe fydd y cynadleddwyr yn manteisio ar y cyfle hefyd i frolio'u harweinydd a fydd ar Fawrth 15 eleni yn dathlu blwyddyn gron ers cael ei hethol i'r swydd.
Er bod arolwg Gŵyl Ddewi BBC Cymru yn awgrymu nad yw 40% o bobl Cymru yn gwybod pwy yw arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru, mae Plaid Cymru wrth eu boddau bod Ms Wood yn ail i Carwyn Jones yn unig o ran ei phoblogrwydd.
Mwy o atebolrwydd
Bydd hi a'i thîm arweinyddol i'w gweld ymysg aelodau cyffredin y blaid am y tro cyntaf yn y gynhadledd hon.
Cafodd swydd y Llywydd ei ddiddymu yng nghynhadledd arbennig y blaid ddechrau Chwefror a sefydlwyd tîm yr arweinydd i sicrhau arweinyddiaeth gliriach a mwy o atebolrwydd gan holl gynrychiolwyr y blaid.
Ond yn ôl yr arweinydd, mae'r tîm hwnnw wedi bod yn weithredol ers peth amser, ac mai ffurfioli'r newid a newidiadau strwythurol o fewn i Blaid Cymru wnaeth y gynhadledd.
Doedd dewis Ynys Môn fel mangre'r gynhadledd ddim yn gyd-ddigwyddiad.
Na, does dim etholiad cenedlaethol eleni ond mae'r ynys yn cynnal etholiadau cyngor fis Mai, blwyddyn yn hwyrach na gweddill cynghorau Cymru wedi holl drafferthion yr ynys.
Gyda chyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn cynrychioli'r ynys yn y Cynulliad, mae'r blaid yn gweithio tuag at ennill rheolaeth dros y cyngor, tasg anodd a'r ynys â thraddodiad cryf o ethol cynghorwyr annibynnol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd14 Medi 2012
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd23 Medi 2012
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2012