Dim achos wedi ymchwiliad £11 miliwn
- Cyhoeddwyd
Mae'n debygol y bydd un o'r ymchwiliadau mwya' i honiadau o esgeulustod a thwyll mewn cartrefi gofal yn dod i ben heb achos llys.
Dyw hi ddim yn ymddangos y bydd meddyg, sy'n wynebu cyhuddiadau yn sgil yr ymchwiliad, yn mynd o flaen ei well oherwydd rhesymau meddygol.
Cafodd Dr Prana Das niwed i'r ymennydd oherwydd lladrad treisgar yn ei gartre'r llynedd.
Roedd yr ymchwiliad, Ymgyrch Jasmine, wedi costio £11.6 miliwn.
Wedi gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd, penderfynwyd gadael y cyhuddiad yn erbyn Dr Das ar gofnod.
Mae Heddlu Gwent wedi croesawu'r penderfyniad y gallai'r achos ailddechrau os bydd cyflwr y meddyg yn gwella.
Ymchwiliad cyhoeddus
Yn y cyfamser, mae Aelod Seneddol Caerffili Wayne David wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i safonau cartefi gofal Cymru.
"Roedd ymgyrch yr heddlu'n fawr ... a'r enghreifftiau o gam-drin yn ofnadwy.
"Felly mae'n hanfodol fod gwersi'n cael eu dysgu a bod safonau'n gwella yn sgil ymchwiliad yr heddlu."
Yn ôl y Dirprwy Brif Gwnstabl, Jeff Farrar, nod yr heddlu drwy gydol yr ymchwiliad, oedd "ceisio'r gwirionedd a sicrhau cyfiawnder".
'Anhygoel'
Ychwanegodd: "Dyma'r ymchwiliad mwya' cymhleth a heriol gan Heddlu Gwent a nifer o asiantaethau eraill. Dyma hefyd yr ymgyrch mwya' proffesiynol rwyf wedi bod yn rhan ohono mewn 30 mlynedd o blismona.
"Yn ystod yr achos mae 'na ddigwyddiadau cwbl anhygoel wedi bod na allai neb fod wedi'u rhagweld, gyda'r ymosodiad ar y prif ddiffynnydd.
"Mae'r anafiadau a gafodd yn golygu na allwn barhau â'r achos."
Clywodd y llys ddydd Gwener diwetha' y gellid ailddechrau'r achos yn ddiweddarach petai Dr Das, cyfarwyddwr Puretruce Health Care, yn gwella.
Dywedodd Mr Farrar: "Rydym yn croesawu hyn. Trwy gydol yr ymchwiliad rydym wedi ceisio cefnogi'r teuluoedd a byddwn yn parhau i wneud hyn. Rydym yn meddwl amdanyn nhw ar yr adeg anodd yma."
Esgeulustod
Roedd Dr Das yn wynebu cyhuddiadau'n ymwneud ag esgeulustod a thwyll mewn dau gartre' gofal - Cartre' Gofal Brithdir yn Nhredegar Newydd, ger Bargoed, a The Beeches ym Mlaenafon.
Ac roedd cwmni Puretruce Health Care yn wynebu dau gyhuddiad o fethu â sicrhau nad oedd perygl i iechyd a diogelwch preswylwyr Brithdir.
Roedd Dr Das, 66 oed, yn wynebu dau gyhuddiad o ganiatáu neu gynllwynio i fethu â chyflawni dyletswydd fel cyfarwyddwr Puretruce, gyda'r methiannau hyn yn gyfystyr ag esgeulustod.
Roedd hefyd wedi'i gyhuddo o ladrata mewn perthynas â thair siec, oedd â chyfanswm o £23,080.65, ac yn wynebu pedwar cyhuddiad o gyfrifon ffug gyda chyfanswm o £314,656.65.
Fydd ei gyd-ddiffynnydd, Paul Black, o Sir Gaerloyw, ddim yn sefyll ei brawf wedi i'r llys benderfynu na fyddai'n briodol iddo wneud hynny ar ei ben ei hun.
Dos anghywir
Cafodd Ymgyrch Jasmine ei sefydlu ym mis Hydref 2005 wedi i Gladys Thomas, claf 84 oed yng nghartre' gofal Bryngwyn Mountleigh yn Nhrecelyn, gael ei chludo i'r ysbyty ar ôl cael dos anghywir o feddyginiaeth. Bu farw'n ddiweddarach.
Fe blediodd nyrs yn y cartre' yn euog i gyhuddiad o esgeulustod ar y sail nad oedd wedi rhoi'r feddyginiaeth gywir.
Cafodd wyth o ofalwyr a nyrsys eu cyhuddo o esgeulustod bwriadol mewn perthynas ag anafiadau ar gorff y claf ond daeth yr achos i ben dair wythnos cyn mynd i'r llys yn 2008.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2011