Cartrefi gofal: Galw am ymchwiliad cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd
Wayne David
Disgrifiad o’r llun,

Trafodwyd y posibilrwydd o gynnal ymchwiliad cyhoeddus i safonau mewn cartrefi gofal yng Nghymru pan oedd Mr David yn weinidog yn Swyddfa Cymru.

Mae Wayne David, cyn-weinidog yn Swyddfa Cymru, wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i safonau mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Daw hyn ar ôl iddi ddod i'r amlwg ei bod yn debygol y bydd un o'r ymchwiliadau mwya' i honiadau o esgeulustod a thwyll mewn cartrefi gofal yn dod i ben heb achos llys.

Dyw hi ddim yn ymddangos y bydd meddyg, Dr Prana Das, sy'n wynebu cyhuddiadau yn sgil yr ymchwiliad, yn mynd o flaen ei well oherwydd rhesymau meddygol.

£11.6 miliwn

Roedd yr ymchwiliad, Ymgyrch Jasmine, wedi costio £11.6 miliwn.

Trafodwyd y posibilrwydd o gynnal ymchwiliad cyhoeddus i safonau mewn cartrefi gofal yng Nghymru pan oedd Mr David yn weinidog yn Swyddfa Cymru.

Ond penderfynwyd peidio â bwrw ymlaen ar y pryd gan fod y prosesau cyfreithiol yn mynd yn ei blaen.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dr Prana Das niwed i'r ymennydd yn dilyn lladrad treisgar yn ei gartre'

Nawr bod Ymgyrch Jasmine yn tynnu i'w derfyn, dywedodd Mr David fod rhaid dysgu gwersi.

"Roedd Ymgyrch Jasmine yn ymchwiliad mawr gan yr heddlu.

"Cafodd adnoddau enfawr iddo ac roedd yr enghreifftiau o gamdriniaeth o bobl hŷn mewn cartrefi gofal yn wirioneddol ofnadwy.

"Mae'n hollbwysig bod gwersi yn cael eu dysgu a bod safonau a gweithdrefnau yn cael eu gwella."

Ddydd Gwener fe fydd Mr David yn cwrdd â Heddlu Gwent i drafod Ymgyrch Jasmine a'r penderfyniad i beidio â rhoi Dr Dasar ar brawf.

Cafodd Dr Prana Das niwed i'r ymennydd oherwydd lladrad treisgar yn ei gartre'r llynedd.

Wedi gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd, penderfynwyd gadael y cyhuddiad yn erbyn Dr Das ar gofnod.

Ond mae Heddlu Gwent wedi croesawu'r penderfyniad y gallai'r achos ailddechrau os bydd cyflwr y meddyg yn gwella.

Roedd Dr Das yn wynebu cyhuddiadau'n ymwneud ag esgeulustod a thwyll mewn dau gartre' gofal - Cartre' Gofal Brithdir yn Nhredegar Newydd, ger Bargoed, a The Beeches ym Mlaenafon.

Dos anghywir

Cafodd Ymgyrch Jasmine ei sefydlu ym mis Hydref 2005 wedi i Gladys Thomas, claf 84 oed yng nghartre' gofal Bryngwyn Mountleigh yn Nhrecelyn, gael ei chludo i'r ysbyty ar ôl cael dos anghywir o feddyginiaeth. Bu farw'n ddiweddarach.

Fe blediodd nyrs yn y cartre' yn euog i gyhuddiad o esgeulustod ar y sail nad oedd wedi rhoi'r feddyginiaeth gywir.

Cafodd wyth o ofalwyr a nyrsys eu cyhuddo o esgeulustod bwriadol mewn perthynas ag anafiadau ar gorff y claf ond daeth yr achos i ben dair wythnos cyn mynd i'r llys yn 2008.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol