M4: Rhan o'r draffordd wedi cau wedi damwain yn Nhwneli Brynglas

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na ddwy filltir o dagfeydd ar yr M4 wedi damwain ddifrifol yn Nhwneli Brynglas.

Mae'r lôn ddwyreiniol wedi cau rhwng cyffordd 28 (Parc Tredegar) a Chyffordd 25A (Casnewydd).

Yn ôl adroddiadau mae'r ddamwain yn y twnel ac fe fydd y draffordd ar gau am rai oriau eto.

Mae'r traffig wedi cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A48 o Gyffordd 28 dros y bont yng Nghasnewydd i ail ymuno â'r draffordd yng Nghyffordd 24.

Mae'r gwasanaethau brys yn parhau ar y safle wedi'r digwyddiad tua 3am ddydd Gwener.

Yn ôl Traffig Cymru fe fydd y ffordd ar gau wrth i'r ymchwiliad barhau.

Mae traffig yn brysurach na'r arfer ar yr A48 o ganlyniad i'r dargyfeiriad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol