17,000 yn mynd o Wrecsam i Wembley

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Wrecsam y tu allan i siop dros dro'r clwb
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r chwaraewyr yn cael tynnu eu llun ger siop dros dro'r clwb ddydd Iau

Bydd dros 17,000 o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam yn gwneud y daith i Wembley ar gyfer rownd derfynol Tlws FA Lloegr ddydd Sul.

Dywedodd rheolwr y tîm, Andy Morrell, bod taith gyntaf y tîm i Wembley erioed yn wobr haeddiannol i'r cefnogwyr sydd bellach yn berchen ar y clwb.

Mae arweinydd Cyngor Wrecsam wedi dymuno'n dda i'r garfan, gan ddweud bod y bwrdeistref sirol yn mwynhau hwb oherwydd helyntion y clwb.

Bu'r garfan yn cwrdd â chefnogwyr y tu allan i siop dros dro, a sefydlwyd gan y clwb yng nghanolfan siopa Dôl yr Eryrod ddydd Iau, er mwyn gwerthu nwyddau arbennig yn ymwneud â'r achlysur.

'Mwyafrif y dre'

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Neil Rogers: "Mae Andy Morrell a'i chwaraewyr yn mwynhau tymor da, ac mae cael diwrnod allan yn Wembley yn wobr i bawb fu'n brwydro mor galed dros GPD Wrecsam.

"Rwy'n credu bod mwyafrif poblogaeth Wrecsam yn anelu am Wembley y penwythnos yma, ac mae llwyddiant y tîm yn sicr wedi cyfrannu at deimlad da o gwmpas y dref.

"Mae'r dre'n mwynhau hwb anferth pan mae'r tîm pêl-droed yn gwneud yn dda, ac mae pawb yng nghyngor Wrecsam yn dymuno'n dda i'r tîm ddydd Sul."

Prynwyd y clwb gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam (YCW) yn Rhagfyr 2011, ac fe wnaeth Prifysgol Glyndŵr gymryd rheolaeth o stadiwm y Cae Ras.

Y rhagolygon oedd y byddai'r tîm yn gorffen y tymor gyda diffyg ariannol o £200,000, ond mae'r penaethiaid nawr yn credu y dylai'r arian o werthiant tocynnau'r rownd derfynol - oddeutu £250,000 - ddod â'r clwb allan o'r coch.

Maen nhw hefyd yn credu bod gwerthiant o nwyddau yn siop y clwb yn werth dros £40,000 yn barod.

Ychwanegodd y prif weithredwr, Don Bircham, bod y wobr am ennill y Tlws ddydd Sul yn £86,000 gyda'r tîm sy'n colli yn derbyn dros £60,000.

Ofergoelus

Ond mae Wrecsam yn gobeithio am "ddwbl" y tymor hwn ac yn sicr ennill dyrchafiad yn ôl i'r gynghrair bêl-droed yw'r flaenoriaeth.

Dywed Mr Bircham fod hynny'n werth £700,000 bob tymor i'r tîm.

Mae'r clwb wedi llwyddo i lenwi dros 80 o fysiau sy'n gadael am Lundain yn gynnar fore Sul am daith gyntaf Wrecsam i bencadlys pêl-droed Lloegr yn eu hanes o 150 o flynyddoedd.

Mae cwmni Trenau Arriva Cymru hefyd wedi gwerthu bob tocyn ar drên arbennig sy'n mynd yn syth o Wrecsam i Stadiwm Wembley.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwerthiant nwyddau'r clwb eisoes wedi golygu hwb ariannol o dros £40,000

Un cefnogwr sydd ddim eto wedi penderfynu os fydd yn teithio i Wembley neu beidio yw un o arwyr y clwb, Joey Jones.

Mae cyn-gefnwr Wrecsam a Lerpwl bellach yn hyfforddi'r ail dîm, ac mae'n cyfadde' ei fod yn ofergoelus iawn. Nid yw wedi bod yn gweld y tîm cyntaf yn chwarae oddi cartref y tymor hwn, ac mae ganddo ofn temtio ffawd os fydd yn ymuno â'r garfan.

Dywedodd wrth BBC Cymru y byddai'n well ganddo weld y tîm yn ennill dyrchafiad, gan ddweud:

"Fe fyddwn i'n dewis hynny bob tro dros ennill y cwpan.

"Ond os ydych chi mewn cystadleuaeth, rhaid i chi geisio'i hennill."

Mae'r rheolwr Andy Morrell yn cytuno, ond yn dweud bod dydd Sul yn gyfle i'r cefnogwyr gael diwrnod allan, gan iddyn nhw gefnogi'r clwb yn y dyddiau du cyn i'r cefnogwyr brynu'r clwb yn 2011.

"Mae'r peth wedi dal dychymyg y dref yn sicr," meddai.

"Fe fydd hi'n ddiwrnod gwych, ond mae'n gêm y mae'n rhaid i ni ei hennill."

Cadarnhaodd FA Lloegr ddydd Iau bod cefnogwyr Wrecsam wedi prynu dros 17,000 o docynnau, tra bod cefnogwyr y gwrthwynebwyr - Grimsby Town - wedi prynu 15,680 o docynnau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol