Mwy o achosion o'r frech goch

  • Cyhoeddwyd
y brechiad MMRFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae clinigau ychwanegol yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn i sicrhau bod cynifer o blant â phosib yn cael eu brechu

Mae 'na gadarnhad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 'na gynnydd pellach wedi bod yn nifer y bobl sydd â'r frech goch yn ardal Abertawe.

Yn ôl yr ystadegau diweddara' mae 588 nawr wedi eu heintio ers mis Tachwedd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mae'r corff yn parhau i annog rhieni a gofalwyr i sicrhau bod plant yn derbyn y brechiad MMR.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 'na gynnydd yn nifer o frechiadau sydd wedi eu rhoi gydag ychydig dan 600 yn cael eu brechu yn ystod y saith niwrnod diwethaf.

Mae 'na glinigau ychwanegol yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Y gobaith yw brechu cymaint â phosib ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod 'na risg i'r plant sydd heb gael eu brechu ddod i gysylltiad â phobl sydd eisoes wedi eu heintio yn cynyddu'n ddyddiol ac mae pobl sydd heb eu brechu yn debygol iawn o gael yr haint.

Dau frechiad

Dywed y corff mai mater o amser yw hi, felly, cyn bod plentyn yn cael cymhlethdodau difrifol a pharhaol fel problemau gyda'r llygaid, byddardod, niwed i'r ymennydd, neu yn marw.

Mae achosion ar draws Cymru ond mae'r rhan fwyf o achosion yn ardal Abertawe, Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda.

Dywedodd Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, eu bod yn falch o weld bod 586 o bobl wedi cael y brechiad MMR dros yr wythnos diwethaf yn ychwanegol at y rhai sydd i fod i'w dderbyn yn fabi.

"Mae hyn yn gychwyn da ond mae 'na filoedd o blant sydd ddim wedi derbyn y ddau frechiad.

"Mae'n braf gweld mwy o rieni yn ymddiried yn y brechiad a byddaf yn annog mwy i'w dilyn.

"Mae'r brechiad MMR yn cael ei argymell gan Sefydliad Iechyd y Byd, Adran Iechyd Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y dull mwyaf effeithiol a diogel o ddiogelu plant rhag y frech goch.

"Mae'r nifer brawychus o achosion o'r frech goch, a'i ymlediad yng Nghymru yn dangos pa mor bwysig yw hi fod rhieni yn sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu."

Does 'na ddim angen apwyntiad ar gyfer y sesiynau ddydd Sadwrn a fydd yn cael eu cynnal rhwng 10am a 4pm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol