Y Frech Goch: Dros 500 o achosion

  • Cyhoeddwyd
y brechiad MMRFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd clinigau ychwanegol eu cynnal dros y Sul i i sicrhau bod cynifer o blant â phosib yn cael eu brechu

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod dros 500 o achosion o'r frech goch wedi eu cofnodi yn y clwstwr o achosion yn ardal Abertawe.

Roedd 109 o'r achosion hynny wedi eu cofnodi o fewn yr wythnos ddiwethaf.

Mae achosion yn parhau i ddod i'r amlwg ar draws Cymru, gyda'r mwyafrif yn ardaloedd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r risg y bydd plant sydd heb gael eu brechu yn dod i gysylltiad â phobl sydd eisoes wedi eu heintio yn cynyddu'n ddyddiol ac mae pobl sydd heb eu brechu yn debygol iawn o gael yr haint.

Dywed y corff mai mater o amser yw hi, felly, cyn bod plentyn yn cael cymhlethdodau difrifol a pharhaol fel problemau gyda'r llygaid, byddardod, niwed i'r ymennydd, neu yn marw.

Dychwelyd i'r dosbarth

Mae un cyn-ymgynghorydd paediatregwyr wedi awgrymu y dylid brechu'r holl ddisgyblion yn yr ysgolion yn Abertawe sydd wedi gweld achosion o'r frech goch.

Dywedodd Dr Dewi Evans ar raglen y Post Prynhawn ar Radio Cymru y dylid brechu'r plant wrth iddyn nhw ddychwelyd i'r dosbarth yn dilyn Gwyliau'r Pasg.

Ychwanegodd ei fod yn synnu nad yw Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes wedi cymryd y cam hwn o ystyried bod dros 500 achos o'r haint bellach wedi cael eu cadarnhau, ac mai dyma fyddai'r dull hawsaf o reoli'r epidemig.

'Brawychus'

Dywedodd Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Mae'r brechiad MMR yn cael ei argymell gan Sefydliad Iechyd y Byd, Adran Iechyd Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y dull mwyaf effeithiol a diogel o ddiogelu plant rhag y frech goch.

"Mae'r nifer brawychus o achosion o'r frech goch, a'i ymlediad yng Nghymru yn dangos pa mor bwysig yw hi fod rhieni yn sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu.

Dywedodd bod brechiad ychwanegol yn cael ei gynnig mewn rhai ardaloedd.

"Mae rhieni plant sydd rhwng 6 a 12 mis sydd heb eu brechu, ac sy'n byw yn, neu'n teithio i ardaloedd yr haint yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn gallu cael cynnig brechiad gan eu meddyg teulu.

"Does yna ddim effaith niweidiol i'r brechiad ychwanegol hwn, ac mi fyddai'n dal angen i'r plant hynny dderbyn y ddau ddôs sy'n cael eu hargymell pan yn 13 mis ac yn deirblwydd a phedwar mis oed."

Ychwanegodd bod byrddau iechyd wedi trefnu clinigau ychwanegol dros y Sul i sicrhau bod cynifer o blant â phosib yn cael eu brechu.

"Rwy'n obeithiol y byddwn ni trwy gyd-ymdrech, a chyda rhieni cyfrifol yn brechu'r plant, yn gallu lleihau'r risgiau i blant o'r afiechyd ofnadwy hwn."