Y frech goch: 620 wedi eu heintio yn ardal Abertawe Bro Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi mai 620 sydd wedi eu heintio gan y frech goch yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Ond maen nhw wedi dweud bod 'na ymateb da dros y penwythnos mewn clinigau gan fod 1,726 wedi cael brechiad.
Mae'r corff wedi dweud nad oes 'na arwydd bod yr achosion yn dod i ben.
Hyd yn hyn mae tua 6,000 o blant yn yr ardal yn dal heb eu brechu ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhai sydd ddim wedi cael dau ddogn o MMR i wneud hynny.
900 o blant
Dywedodd Dr Marion Lyons o Iechyd Cyhoeddus Cymru fod dros 900 o blant wedi cael y brechiad mewn meddygfeydd yr wythnos ddiwethaf.
"Rydym yn falch o ymateb y rhieni i'r achosion ac yn falch eu bod yn sylweddoli pa mor bwysig yw cael y ddau frechiad.
"Mae angen y math yma o ymateb er mwyn rheoli'r haint.
"Ond mae cymaint o blant yn dal heb eu brechu ac fe fyddem yn eu hannog i wneud hynny."
Yn y cyfamser, mae Jonathan Roberts, Golygydd y South Wales Evening Post, wedi amddiffyn ymgyrch y papur yn erbyn brechiadau MMR.
Mae rhai wedi dweud bod y papur ar fai i raddau am y sefyllfa ddiweddaraf.
Yn 1997 roedd gwaith Dr Andrew Wakefield, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn meddygol y Lancet, yn awgrymu y gallai'r brechiad achosi problemau.
Daeth hi'n amlwg flynyddoedd wedyn nad oedd sail i'r pryderon ond roedd llawer o rieni wedi penderfynu peidio â rhoi'r brechiad i'w plant oherwydd yr ofnau.
Mae Mr Roberts wedi dweud nad oedd yn bosib' gwybod ar y pryd fod yr ymchwil yn ddiffygiol a'i bod hi'n "hawdd bod yn feirniadol wrth edrych yn ôl".
'Dyletswydd'
"Roedd y pryderon yn y 1990au yn ddiffuant," meddai.
"Roedd yn ddyletswydd arnon ni adlewyrchu'r farn gyhoeddus."
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes wedi apelio at rieni plant sydd heb gael y brechiad i drefnu drwy gysylltu â meddyg teulu.
Mewn datganiad ar eu gwefan dywedodd fod y "rhai sydd ddim wedi cael eu brechu yn debygol iawn o ddal y clefyd.
"Dim ond mater o amser yw hi cyn i blentyn gael cymhlethdodau difrifol a pharhaol fel anhwylderau'r llygaid, byddardod neu niwed i'r ymennydd, neu hyd yn oed farw yn sgil y clefyd hwn."
Mae sesiynau ychwanegol wedi eu trefnu ar gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr y penwythnos hwn.
Eisoes mae achosion wedi bod ym Mhowys ac yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, hynny yw Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2013