Y Frech Goch: Mwy o glinigau MMR yn ardal Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o sesiynau brechu yn cael eu cynnal i sicrhau fod plant yn ardal Abertawe, sydd mewn peryg o ddal y frech goch, yn cael pigiad MMR.
Cafodd tua 1,200 o bobl eu brechu yn ystod clinigau arbennig dros y penwythnos, gyda nifer yr achosion oedd wedi'u cofnodi yn codi i 600.
Bydd rhai meddygfeydd teulu hefyd yn cynnal clinigau'r wythnos hon, gyda sesiynau ychwanegol ddydd Sadwrn nesa' yn ogystal.
Mae swyddogion iechyd lleol yn dweud ei bod yn rhy gynnar i ddweud a yw'r gwaetha' drosodd eto.
Roedd cannoedd o bobl wedi mynd i ysbytai yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont dydd Sadwrn i gael y brechlyn MMR am ddim.
Cafodd y sesiynau eu trefnu ar gyfer plant a phobl ifanc oedd heb gael eu brechu pan yn fabanod.
Ciwio
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd y galw am y brechlyn ddydd Sadwrn 50% yn uwch na'r hyn oedd wedi'i amcangyfrif.
Roedd pobl yn aros y tu allan i Ysbyty Treforys, Abertawe, awr cyn i'r drysau agor.
Ond dywedodd yr Athro Andrew Davies, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, fod nifer o bobl oedd wedi dod i'r clinigau wedi gorfod gadael heb gael y brechlyn am fod gormod o bobl yno.
Ychwanegodd y byddai meddygon teulu'n gallu cynnig y brechlyn yr wythnos hon a'i fod yn deall y byddai rhai meddygfeydd yn cynnal clinigau arbennig.
"Yn amlwg mae rhieni a gofalwyr yn pryderu am yr achosion o'r frech goch, y nifer ucha' ers degawdau," meddai wrth BBC Cymru.
Dywedodd Yr Athro Davies ei bod yn "rhy gynnar i ddweud a ydyn ni dros y gwaetha" gan ei bod yn cymryd pythefnos i symptomau ddatblygu.
Mae'r dôs cynta' o'r brechlyn yn rhoi tua 95% o amddiffyniad yn erbyn y frech goch. Mae'r ail ddôs - sy'n cael ei roi fis yn ddiweddarach - yn rhoi tua 99% o amddiffyniad.
Bydd rhagor o glinigau'n cael eu cynnal yn y pedwar prif ysbyty ddydd Sadwrn nesa', a bydd ysgolion yn cynnig y brechlyn yn dilyn gwyliau'r Pasg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2013