Eglwys i drafod ordeinio merched fel esgobion

  • Cyhoeddwyd
Barry Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dr Barry Morgan yw Archesgob Cymru ers 2003

Bydd ordeinio menywod fel esgobion yn un o'r pynciau fydd dan sylw yn ystod cyfarfod yr Eglwys yng Nghymru sy'n dechrau ddydd Mercher.

Bydd y gynhadledd ddeuddydd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Cymru yn Llanbedr Pont Steffan.

Fe fydd y 144 aelod o gorff llywodraethol yr eglwys yn trafod dadleuon diwinyddol o blaid ac yn erbyn caniatáu menywod i gael eu hordeinio.

Dyma'r tro cyntaf i'r Eglwys yng Nghymru drafod y pwnc ers i'r aelodau drechu mesur yn 2008.

Mae gan fenywod yr hawl i gael eu hordeinio fel offeiriaid yma ers 1997.

Gwrthododd yr Eglwys yn Lloegr fesur a fyddai wedi caniatáu i ferched gael eu hordeinio fel esgobion ym mis Tachwedd 2012.

Ni fydd pleidlais yn digwydd yn ystod y cyfarfod hwn - yn hytrach bydd mesur yn cael ei roi gerbron yr aelodau yn yr ail gyfarfod blynyddol fydd yn cael ei gynnal ym mis Medi.

Bydd y mesur cyntaf yn ymwneud ac egwyddor y mater, ac os caiff ei gymeradwyo, bydd ail fesur yn cael ei gyflwyno.

Medi 2014 yw'r cynharaf y gall yr ail fesur hwn gael ei drafod.

"Archesgob Cymru"

Mae Archesgob Cymru Dr Barry Morgan eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i roi caniatâd i ferched fod yn esgobion.

Dywedodd yn ôl yn 2007 ei fod yn credu y byddai hynny'n gam "hollol resymegol".

Bydd Dr Morgan yn rhoi araith i'r aelodau brynhawn Mercher, lle mae disgwyl iddo drafod gwaith yr eglwys.

Mae disgwyl iddo bwysleisio pwysigrwydd cyd-weithio o fewn y sefydliad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol