Aelodau côr Obernkirchen yn dychwelyd i Langollen
- Cyhoeddwyd
Bydd aelodau côr o'r Almaen yn dychwelyd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni am y tro cyntaf ers 60 mlynedd.
Roedd Ursel Gaussman ac Inge Volkening yn 14 mlwydd oed y tro diwethaf iddynt ymweld â'r eisteddfod yn 1953.
Roedd y ddwy yn aelodau o gôr plant o Obernkirchen yn yr Almaen ac maent yn dychwelyd i Langollen gyda Gudrun Wuttke, cyfarwyddwr cerddorol y côr.
"Mae'r menywod yn awyddus iawn i ddod yn ôl i Langollen ond maent am i mi ddod gyda nhw achos nid ydynt yn siarad Saesneg," meddai Ms Wuttke.
"Fe wnaethon nhw ymddangos ar raglen teledu Almaeneg ym mis Medi a siaradon nhw am eu hatgofion o Langollen."
Dylan Thomas
Daeth y côr yn enwog am ganu cân o'r enw The Happy Wanderer - wedi i'r BBC ddarlledu eu perfformiad yn Llangollen, fe ddisgrifiodd Dylan Thomas aelodau'r côr fel "pig-tailed angels" mewn darllediad radio.
Cafodd aelodau o'r côr gyfle i gwrdd â'r bardd a hefyd y Frenhines a'r Tywysog Philip yn ystod eu hymweliad â'r eisteddfod.
Dywedodd Ms Wuttke bod angen cofio bod gan yr Almaen berthynas anodd gyda gwledydd eraill yn 1953.
"Pan edrychwch ar hanes anhygoel y côr hwn dylech bob amser cofio bod yr Almaen wedi colli'r rhyfel yn 1945," meddai.
Er gwaethaf hyn cafodd y côr groeso cynnes yn Llangollen gyda'r aelodau ifanc yn cael llety gyda theuluoedd lleol tra eu bod yn aros yn y dref.
"Mae'r ddwy fenyw yn cofio eu hamser yn Llangollen fel un o'r profiadau pwysicaf yn eu bywydau," ychwanegodd Ms Wuttke.
Un sydd yn cofio perfformiad y côr yn 1953 yw cyn-gadeirydd yr eisteddfod, Gethin Davies, oedd yn 14 mlwydd oed ac yn gweithio fel tywysydd ar y pryd.
"Roeddwn newydd ddangos rhywun i'w sedd pan ddaeth y plant allan gyda bas dwbl a gitâr ac yn sydyn mi ddaeth y sŵn anhygoel yma o'r llwyfan," dywedodd.
"Pan orffennon nhw roedd y gynulleidfa yn curo dwylo ac yn galw am encôr ond oherwydd mai cystadleuaeth ydoedd nid oeddent yn cael canu eto."
Bydd Inge ac Ursel yn cymryd rhan yn seremoni agoriadol yr eisteddfod ar 9 Gorffennaf gyda Terry Waite, llywydd yr eisteddfod.
Ymhlith y rhai eraill fydd yn ymddangos yn yr eisteddfod eleni mae Only Men Aloud, Evelyn Glennie a Jools Holland.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2012