Rhyddhau ffeiliau UFO

  • Cyhoeddwyd
Sgets UFOsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Sgets wedi ei dynnu gan aelod o'r cyhoedd wedi iddo weld 'llynges' o UFOiaid yn Whitchurch, Caerdydd yn 1992

Mae ffeiliau UFO sydd wedi eu rhyddhau gan yr Archif Genedlaethol yn cynnwys manylion am ddigwyddiad rhyfedd yn Llangefni ac adroddiad gan ddyn oedd yn honni i'w gar, ei gi a'i babell gael eu cipio gan long ofod.

Yn y ffeiliau mae manylion ynglŷn â llawer o ddigwyddiadau gafodd eu rhoi i'r heddlu a'r Weinyddiaeth Amddiffyn rhwng 1954 a 2009.

Mae'r rhan fwyaf o'r ffeiliau sy'n ymwneud a Chymru yn ymwneud a chyfnod rhwng 2007 a 2009.

Roedd un cais am wybodaeth yn dilyn adroddiadau bod hofrennydd Heddlu De Cymru wedi gweld rhywbeth yn yr awyr ym Mehefin 2008, ond ni wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn ymchwilio i'r mater yn swyddogol.

Golau yn Llangefni

Yn Hydref 1977 fe wnaeth dyn oedd yn dweud ei fod yn gyn-filwr oedd yn gweithio yn y Wylfa ddisgrifio sut y gwnaeth golau rhyfeddol ymddangos yn ei stafell yn Llangefni.

Yn ôl yr adroddiad fe wnaeth y golau, "setlo ar y gadair freichio gan guro gydag egni".

Doedd dim sŵn na gwres yn dod o'r golau gwyrddlas. Wrth ddisgrifio'r golau dywedodd y tyst ei fod yn llawn pwyntiau o olau oedd yn edrych "fel sêr".

Fe wnaeth y golau wedyn ddiflannu trwy'r ffenestr.

Mae'r papurau yn dangos bod y weinyddiaeth wedi ysgrifennu at berson oedd yn dweud i'w gar, ei gi a'i babell gael eu cipio gan "long ofod" yng Nghaerdydd yn 2007 i ddweud wrtho mai mater i'r heddlu yw dwyn a chipio.

Dywedodd y tyst ei fod yn gwersylla gyda'i ffrindiau pan gafodd ei eiddo ei ddwyn gan lawer o "longau gofod".

'Y Roswell Cymreig'

Mae manylion yn y ffeiliau o ohebiaeth rhwng cwmni teledu a'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dilyn digwyddiad honedig ym Mynyddoedd y Berwyn rhwng Corwen a Bala yn Ionawr 1974.

Roedd y cwmni oedd yn gweithio i Channel 5 eisiau gwybodaeth ynglŷn â'r darganfyddiad o "gyrff arallfydol" ac adfeilion "llong ofod".

Yn fuan wedi'r Nadolig yn 2007 fe wnaeth tyst ddisgrifio sut welodd rhyw fath o 'seren wib' od oedd yn edrych fel "dwy het gychwr wedi ei gliwio gyda'i gilydd".

Mewn digwyddiad arall gyrrodd dyst o Orseinon, Abertawe luniau o beth oedd yn edrych fel gwrthrych soseraidd i'r Weinyddiaeth Amddiffyn drwy gyfrwng e-bost - ni chafwyd esboniad.

'Soser'

Yn Awst 2008 fe wnaeth aelod o'r cyhoedd ddweud wrth y Weinyddiaeth Amddiffyn sut y gwelodd "soser yn hedfan" yn Argoed ger Caerffili.

Dywedodd y tyst ei fod yn gyrru ei feic modur pan welodd dri gwrthrych oren ger y Coed Duon ac un soser yn hedfan tua'r gogledd.

Roedd y disg du yn "gyflym ac yn ddistaw".

Mae'r adroddiad hynaf yn mynd yn ôl i Orffennaf 1954, pan ddisgrifiodd rhywun "gylch du" yn yr awyr dros Gasnewydd oedd yn edrych fel "soser hedegog arian".

Mae'r ffeiliau i'w cael i'w llwytho am ddim o wefan yr Archifau Cenedlaethol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol