Eisteddfod 2014: Mil yn dathlu
- Cyhoeddwyd
Gorymdeithiodd mil o bobl trwy strydoedd Caerfyrddin i ddathlu seremoni gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014.
Fel yn 2000, y tro diwethaf y cynhaliwyd y brifwyl yn y sir, bydd Eisteddfod 2014 yn cael ei chynnal yn nhref Llanelli.
Wrth i bobl o bob cwr o'r sir ddod ynghyd i ddathlu, dywedodd Gethin Thomas, cadeirydd y pwyllgor gwaith:
"Mae bwrlwm amlwg iawn yma yn nhre Caerfyrddin heddiw, ac yn ystod y chwe mis diwethaf, mae pawb wedi bod yn brysur ledled y sir, yn ceisio codi arian.
"Tri chant ac ugain o filoedd yw'r nod, ac o fewn chwe mis, mae'n bleser cyhoeddi heddiw bod can mil wedi ei gyrraedd."
Urddo'r Archdderwydd benywaidd cyntaf
Cafodd Dr Christine James ei hurddo yn Archdderwydd yn ystod y seremoni - yr Archdderwydd benywaidd cyntaf erioed.
Fe enillodd Mrs James y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005 am gasgliad o gerddi oedd wedi eu hysbrydoli gan waith celf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Fe'i derbyniwyd i'r Orsedd yn 2002 ac mae'n aelod o Fwrdd yr Orsedd ers 2010.
Yn siarad cyn y seremoni, dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru: "Bydd y Seremoni'n ddigwyddiad hanesyddol wrth i'r Archdderwydd nydd, Christine James, gael ei hurddo.
"Christine yw'r ferch gyntaf i'w hurddo fel Archdderwydd a chan mai yn nhref Caerfyrddin y cychwynnwyd y cysylltiad gyda'r Orsedd a'r Eisteddfod yn 1819 mae'n addas iawn bod yr Orsedd yn dychwelyd i Gaerfyrddin ar gyfer y diwrnod hanesyddol yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2012