Y Brifwyl yn 'profi pwynt' wrth gyflwyno newidiadau

  • Cyhoeddwyd
Gweithdy syrcas ary Maes
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eisteddfod yn awyddus i gynnig mwy o weithgareddau i blant ar y Maes

O'r funud y cyrhaeddwch chi fynedfa Prifwyl Sir Ddinbych eleni, fe welwch chi dipyn o newid i'r arlwy.

Mae'r cyfan yn rhan o ymdrechion yr Eisteddfod Genedlaethol i geisio datblygu'r ŵyl.

Y llynedd cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn sefydlu tasglu i ystyried sut i foderneiddio'r Eisteddfod, ac y gallai'r sefydliad gael rhagor o arian petai nhw'n cyflwyno newidiadau.

Wrth gyrraedd, nid y Ganolfan Groeso arferol fydd yn eich disgwyl. Ac nid dim ond enw newydd fydd gan y Ganolfan Ymwelwyr - bydd yno hefyd gaffi, ble y gall pobl eistedd ac edrych ar dabledi cyfrifiadurol i weld yr hyn sydd i'w gael ar y maes, a chael cyngor gan staff y ganolfan. Bydd modd i ymwelwyr argraffu rhaglen bersonol ar gyfer eu hymweliad.

'Camgymeriad'

"Ella ein bod ni'n cymryd yn ganiataol yn y gorffennol bod y cyhoedd yn gwybod cymaint â ni am yr Eisteddfod," eglurodd y Prif Weithredwr Elfed Roberts.

"Dwi'n meddwl bod hynny wedi bod yn gamgymeriad. Yn yr hen ddyddiau roedd pobl yn prynu rhaglen Eisteddfod ac yn treulio rhyw wythnos cyn yr ŵyl yn edrych arni a chynllunio eu hymweliad.

"Mae 'na rhai yn dal i wneud hynny ond yn gyffredinol mae pobl sy'n ymweld â'r Eisteddfod am ddiwrnod neu ddau, dy'n nhw ddim yn gwneud hynny."

Gyda Maes yr Eisteddfod yn 30 acer, mae 'na lawer i ymwelwyr ei weld a'i wneud.

Ychwanegodd Elfed Roberts: "Os yw pobl yn anghyfarwydd, yna mae 'na beryg na fyddan nhw'n gweld popeth sydd ar gael ar y Maes.

"Peryg hynny wedyn, wrth gwrs, ydy eu bod nhw'n mynd o'r Eisteddfod ar ddiwedd y dydd ddim wedi cael y darlun cyflawn a'u bod nhw ddim yn dod yn ôl."

Gwefan ac app

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eisteddfod wedi datblygu'r app oedd ar gael llynedd

Mae'r Eisteddfod hefyd wedi gwario ar sawl newid i'w gwefan. Bydd modd i bobl ddefnyddio'r wefan, neu app arbennig, i gynllunio rhaglen bersonol ar gyfer eu hymweliad.

Mae'r app yn arloesol, fel yr esboniodd Gwenllian Carr, Swyddog Cyfathrebu'r Eisteddfod: "Dan ni'n un o'r sefydliadau cynta' i ddefnyddio'r app yn y ffordd yma, ac yn sicr i'w ddefnyddio mewn modd dwyieithog.

"Byddwch chi'n gallu ffeindio beth sy'n digwydd o'ch cwmpas chi a'i ychwanegu at eich digwyddiadur eich hun...Gallwch chi hyd yn oed fynd ar eich cyfrifiadur adre' cyn dod, eu safio yn fanno, a bydd yn mynd mewn i'r app yn awtomatig i chi wedyn."

Roedd 'na broblemau gyda'r cysylltiad we ym Mro Morgannwg y llynedd, oherwydd lleoliad y safle a'r ffaith nad oedd mastiau ychwanegol ar gael oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Ond mae'r trefnwyr yn sicrhau y bydd y trefniant yn llawer gwell yn Ninbych eleni.

Meddai Elfed Roberts: "Dan ni wedi ceisio sicrhau bod gynnon ni wasanaeth di-wifr o'r radd flaenaf ar y maes. Doedd llynedd ddim cystal am nad oedd y signal yn dda. Eleni, yn ffodus, 'dan ni wedi medru cysylltu â phibell fibrespeed," eglurodd Mr Roberts.

"Mae 'na hyd yn oed declyn fydd yn eich galluogi chi i ddod o hyd i'ch car yn y maes parcio. Dim ond i chi nodi, ar ôl parcio, ble mae'ch car chi. Mae'n defnyddio GPS ac mi wnaiff y teclyn eich harwain at y car ar ddiwedd y dydd.

"Mi allwch chi hefyd ei ddefnyddio i ddod o hyd i stondinau penodol ar y Maes."

Eisteddfodwyr newydd

Yn y gorffennol, mae'r Eisteddfod wedi canolbwyntio eu hymdrechion ar ddenu pobl i'r Eisteddfod ond mae yna rywfaint o newid strategaeth eleni, gyda'r pwyslais ar wella'r croeso i bobl ar ôl iddynt gyrraedd.

Nid yn unig fydd modd i bobl gael rhagor o wybodaeth wrth gyrraedd y Ganolfan Groeso, ond am y tro cynta' eleni bydd Teithiau Tywys yn cael eu cynnal o amgylch y maes - gyda rhai ohonynt yn bwrpasol ar gyfer dysgwyr.

"Y syniad yw gwella'r croeso i rai sydd ddim heb fod mewn Eisteddfod o'r blaen ac efallai ddim yn siarad Cymraeg, a gwneud hynny heb dynnu oddi wrth yr iaith," meddai Gwenllian Carr.

Bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cyfieithu ar gyfer y Di-Gymraeg hefyd, gan gynnwys nifer o ddarlithoedd drwy gydol yr wythnos.

Plant a phobl ifanc

Bydd yna arlwy newydd ar gyfer plant a phobl ifanc yn y Brifwyl eleni. Er mwyn ceisio creu naws debycach i ŵyl, bydd rhai newidiadau i olwg Maes B. Yn ogystal, bydd Caffi Maes B ar y Maes ei hun, ble bydd setiau acwstig i'w clywed.

Bydd gŵyl lenyddol arbennig yn cael ei chynnal ar gyfer plant, gyda digwyddiadau mewn gwahanol leoliadau ar y Maes pob dydd.

Ychwanegodd Elfed Roberts: "Os 'dach chi'n ymweld â'r Eisteddfod efo plant, mae'n rhaid i chi sicrhau bod 'na ddigon iddyn nhw wneud. Neu, unwaith maen nhw'n blino, maen nhw'n dechrau swnian, ac mae'r rhieni'n cael llond bol ac yn mynd o 'na."

Mae disgwyl i dasglu'r llywodraeth gyflwyno eu hadroddiad i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ddiwedd mis Medi, ac meddai Elfed Roberts:

"Ar ddiwedd y dydd, yr hyn 'dan ni fel Eisteddfod eisiau ydy profi i Lywodraeth Cymru bod yr Eisteddfod yn esblygu yn barhaus, bod yr Eisteddfod yn ŵyl sydd yn bwysig i Gymru, yn bwysig i'r iaith Gymraeg, yn bwysig i'r diwylliant - ac felly yn haeddu rhagor o adnoddau i helpu ni barhau i ddatblygu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol