Teithiau tywys: Cyflwyniad i'r Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Taith dywys
Disgrifiad o’r llun,

Gair o eglurhad am y Pafiliwn Pinc ar y daith dywys

"Dwi'n siŵr 'mod i'n troi yn ddynes; alla' i ddim deall y map yma," meddai'r dyn ar goll yn ei fap o Faes yr Eisteddfod.

"Ond 'dwyt ti yn ei ddal â'i ben i lawr," ceryddodd ei ferch.

Eleni mae gan yr Eisteddfod Genedlaethol yr union ddarpariaeth ar gyfer y brawd hwn a'i debyg - Teithiau Tywys.

Maen nhw wedi eu trefnu ar gyfer y rhai hynny sydd ar goll yn lân unwaith maen nhw wedi camu o'r Ganolfan Groeso i'r Maes a heb wybod lle i droi nesaf.

Ymunodd naw â'r daith gyntaf a gychwynnodd am 10:30yb ar ddydd Sadwrn cyntaf y Brifwyl, dan arweiniad Ianto Phillips o Gaerdydd a Llyr Roberts yn cynorthwyo.

Crwydrwyd y maes gyda'r tywysyddion yn rhannu gwybodaeth ynghylch beth sy'n digwydd yn y gwahanol gorneli ac mewn prif bebyll fel y Babell Wyddoniaeth ["I blant a gîcs"] Maes D, Theatr y Maes, Y Babell Len ("Lle mae beirdd Cymru yn ymgynnull") a'r llwyfannau perfformio.

Cwrw lleol

Bu bron i'r daith chwalu ar un achlysur pan oedodd rhai i flasu cwrw lleol o Sir Ddinbych am ddim, ond daeth pawb at ei gilydd eto ar gyfer dirwyn y daith i ben o fewn muriau sobreiddiol y Lle Celf a gollwng yr ymwelwyr yn rhydd i fwynhau gweddill eu diwrnod yn fwy gwybodus na phan gyrhaeddon nhw'r Brifwyl!

Ymhlith yr ymwelwyr ar y daith gyntaf hon yr oedd Leon Mevel a'i briod o Ottawa yn ymweld â'u mab Steven a'i wraig Llinos, sy'n byw yn Y Rhyl.

Canmolodd Leon y daith a'r argraff gyntaf a wnaeth y Maes arno. Gyda gwreiddiau Llydewig, dywedodd ei fod wedi cael ei fagu mewn cymuned ddwyieithog yng Nghanada a'i fod o'r herwydd yn gyfarwydd â dau ddiwylliant yn gorgyffwrdd.

Disgrifiodd ei dri chwarter awr gyntaf fel eisteddfodwr fel "intriguing".

"Y mae gwahanol ddiwylliannau yn cydfyw yn gwneud bywyd yn fwy diddorol," meddai.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yr Eisteddfod yn cydfynd â'i ddisgwyliadau atebodd: "Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl felly rydw i wedi gwerthfawrogi'r arweiniad."

Ianto Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ianto Phillips yn un o'r rhai fydd yn arwain y teithiau tywys yn ystod yr wythnos

'Mwy hygyrch'

Rhagwelodd Ianto mai Di-Gymraeg fydd y rhan fwyaf o'r rhai a dywysir yn ystod yr wythnos ond fe fydd yna deithiau Cymraeg hefyd.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, mai gwneud yr eisteddfod a'i gweithgarwch "yn fwy hygyrch" i ymwelwyr yw'r bwriad.

"Mae'n gyfle i ni roi sylw i'r Maes ei hun ac i'r profiad yn ystod yr wythnos," meddai."Bwriad y teithiau tywys yw darparu gwasanaeth i'n hymwelwyr sydd angen neu eisiau ychydig o arweiniad, sydd efallai ychydig yn ansicr o'r hyn sydd ar gael i'w wneud ar y Maes, neu unrhyw un sydd awydd cael taith hwyliog a llawn gwybodaeth am yr Eisteddfod cyn cychwyn ar y crwydro'u hunain.

Mae'r teithiau rhad ac am ddim yn gadael y Ganolfan Ymwelwyr am 10.30yb a 13.30yh bob dydd, gyda thaith arbennig ar gyfer dysgwyr yn gadael y Ganolfan am 12.30yh. Cynhelir taith Gymraeg a thaith Saesneg ar wahân yn y bore a'r prynhawn. Mae lle i 25-30 ar bob taith.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol