Prif Weinidog yn addo adolygu targedau trin cleifion

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Jones yn dweud y gallai meddygon osod targedau i gleifion unigol

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod targedau ar gyfer trin cleifion y Gwasanaeth Iechyd yn cael eu hadolygu.

Dywedodd Carwyn Jones mai un opsiwn fyddai gadael i feddygon osod targedau i gleifion unigol.

Mewn cynhadledd fisol yng Nghaerdydd amddiffynnodd bolisi Llafur a cheisio dadbrofi rhai o'r "mythau" am y Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd fod lefelau boddhad cleifion yn uchel a bod y gwasanaeth yng Nghymru yn well nac un Lloegr yn achos mynediad i foddion trin canser, er enghraifft.

'Heriau'

Ond cyfaddefodd fod y GIG yn wynebu "heriau" oherwydd mwy o alw a thoriadau cyllid a dweud y gallai'r targedau presennol gael "effaith andwyol ar ofal i gleifion".

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am ymchwiliad wedi adroddiadau beirniadol o ysbytai a rheolwyr yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones: "Targedau cyrhaeddiad yw'r hyn sy'n gwneud y GIG yn atebol a thryloyw.

"... Allwch chi ddim ymateb i fethiant i gwrdd â thargedau trwy eu hail-ddiffinio ac awgrymu nad ydynt o bwys.

"Y maent o bwys i'r bobl sy'n aros am driniaeth am ganser.

'Ymchwilio'

"Os na all Llywodraeth Cymru gwrdd â'u targedau iechyd eu hunain, yna mae'n hen bryd iddyn nhw ymchwilio i weld pam na ddigwyddodd hynny a mynd i'r afael â'r problemau."

Mae Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi dweud ei bod yn beirniadu'r methiant i gwrdd â thargedau penodol ond yn derbyn bod angen trafod targedau yn y Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd Mr Jones: "Mae pob targed yn cael ei adolygu i ystyried pa mor addas ydyn nhw.

"Un posibilrwydd, er enghraifft, yw creu targedau er mwyn cleifion unigol yn lle cael targed generig ond y cwestiwn yw pa mor ymarferol yw hynny?

"A allwn ni weithredu mewn modd lle mae targed wedi ei addasu i unigolyn a bod y targed yn cael ei osod gan y meddyg ei hun? Mae hynny'n un posibilrwydd."

Ysbyty
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o adroddiadau diweddar wedi bod yn feirniadol o'r Gwasanaeth Iechyd

Perfformiad

Yn y cyfamser, mae gwefan newydd wedi ei lansio a dywedodd Mr Jones y byddai'n helpu codi safonau.

Mae'r wefan, Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol, dolen allanol, yn rhoi data am berfformiad ac yn cyfeirio at y saith bwrdd iechyd yng Nghymru.

Mae'n cynnwys gwybodaeth am gyfraddau marwolaethau, cyfraddau heintiau a faint o nyrsys sydd ar gael ac yn sôn am fesurau i geisio mynd i'r afael â chlefyd y galon a strôc.

Dywedodd Mr Jones bod y wefan yn rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau "tryloywder" yn y GIG.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol