'Olympiad cerddorol heb y cystadlu,' medd un o drefnwyr WOMEX

  • Cyhoeddwyd
WOMEXFfynhonnell y llun, jacob crawfurd
Disgrifiad o’r llun,

Er i gannoedd fynegi diddordeb, dim ond cerddorion gorau y byd sy'n cael perfformio, meddai Eluned Hâf

Mae un o'r trefnwyr wedi dweud bod gŵyl WOMEX yn "Olympiad cerddorol heb y cystadlu".

Am bum niwrnod bydd pob iaith dan haul i'w clywed ar strydoedd y brifddinas ac amrywiaeth fawr o gerddoriaeth yn atseinio wrth i 2500 o bobl o 100 o wledydd hyrwyddo eu cerddoriaeth.

Mae gan bawb ei stondin a'r bwriad ydy gwneud cysylltiadau a thrafod busnes.

Ers 1994 mae'r ŵyl wedi teithio o gwmpas Ewrop a dyma'r tro cynta' iddi ddod i Gymru, yr ail dro i wledydd Prydain.

'Ffair fasnach'

"Mae'n ŵyl, yn ddathliad ond mae'n ffair fasnach," meddai Eluned Hâf, Cyfarwyddwr Cerdd Cymru.

"Mae'n dri pheth a lot mwy. Mae'n rhyw fath o Olympiad cerddorol ...

"Ond does 'na ddim elfen o gystadlu fwy na bod rhywun wedi cael lle i ddangos eu gwaith trwy berfformio yn WOMEX."

Yn adeilad anferth yr Arena Motorpoint yng nghanol y ddinas mae 148 o wirfoddolwyr yn cael eu briffio. Nhw fydd yn helpu i wneud yn siŵr fod popeth yn mynd fel watsh.

Yma y bydd y rhyngweithio yn digwydd yn ystod y diwrnod.

Ond yn y nos, Bae Caerdydd fydd y canolbwynt wrth i artistiaid y byd berfformio ar chwe llwyfan.

Ffynhonnell y llun, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Hâf: 'Gwaith caled, partneriaid amazing a ffydd' yn golygu bod y cyfan yn bosib

Y rhai fydd yn cynrychioli Cymru yw Gwyneth Glyn, fydd yn perfformio gyda grŵp o India, Ghazala; Georgia Ruth; 9 Bach; a Catrin Finch, sy'n perfformio gyda Seckou Keita o Senegal.

Er i gannoedd fynegi diddordeb, dim ond cerddorion gorau'r byd sy'n cael perfformio, meddai Eluned.

"Maen nhw'n cael eu dewis o ryw 900 o geisiadau gwahanol.

"Ond beth oeddan ni'n hynod falch ohono fo eleni oedd bod 58 o'r ceisiadau o Gymru fach a doedden ni wirioneddol ddim yn disgwyl hynny a safon anhygoel."

'Cadw pobl yn effro'

Cymru sy'n cynnal y cyngerdd agoriadol nos Fercher gyda Twm Morys, Ballet Cymru a Dawnswyr Nantgarw ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan.

Mae hon i fod yn gyngerdd "i gadw pobl yn effro wedi teithiau hir ar awyren".

Ond mae Eluned yn gobeithio y bydd y perfformiad a chynnal yr ŵyl yng Nghaerdydd yn gwneud mwy.

Dywedodd fod angen newid yr agwedd at gerddoriaeth o Gymru.

"Mae 'na bobl sydd efo preconceptions, oes, fod y miwsig yn hen-ffasiwn, fod cerddoriaeth draddodiadol Gymraeg ddim yn rhan o gerddoriaeth byd ...

"A dwi yn meddwl ein bod ni fel Cymry yn ddrwg am feddwl hynny - rydan ni'n tueddu i feddwl mai dim ond ni sydd efo diddordeb yn y gerddoriaeth achos ein bod ni'n canu yn yr iaith Gymraeg."

Mae'r panel, meddai, wedi dewis cerddorion sy'n gwthio'r ffiniau.

"Er enghraifft, mae ganddoch chi Georgia Ruth sy'n dechrau ar yrfa ryngwladol heb gwestiwn ac mae hi reit ar ddechrau ei gyrfa.

"Gawn ni weld beth ddigwyddith dros y pum mlynedd nesa' i Georgia.

"Mae ganddoch chi Catrin Finch a Seckou sy'n plethu cerddoriaeth mewn ffordd gyfan gwbl wahanol ond o safon.

Disgrifiad o’r llun,

Y gwirfoddolwyr yn cael eu briffio

"Dyna ydy'r peth. Does 'na 'm pwynt i chi roi rhwbath ymlaen sydd ddim o'r safon orau yn y byd."

'Ffydd'

Yn sicr, dydy trefnu digwyddiad enfawr ddim yn hawdd.

"Gwaith caled, partneriaid amazing a ffydd" sydd wedi golygu bod y cyfan yn bosib, meddai.

Mae'r broses wedi bod yn hir a chais cychwynnol wedi gorfod cael ei gyflwyno er mwyn ceisio denu'r ŵyl i Gaerdydd.

Ddwy flynedd yn ôl y cawson nhw wybod, er mawr syndod, eu bod nhw wedi llwyddo.

Rhaglen deledu wnaeth ysbrydoli'r tîm, meddai.

"Oeddan ni yn gwylio rhaglen 'How Wales won the Ryder Cup' a dwi'n cofio ista 'na a meddwl: 'Dyna be da ni angen neud'.

"Hwn ydy'r pwynt - os 'dach chi'n mynd i'r Alban, wnewch chi ddim newid dim byd. Mae ganddyn nhw golff yn barod.

'Newid'

"Ond os 'dach chi'n dod i Gymru allwch chi newid golff yng Nghymru.

"Mae o run peth efo cerddoriaeth. Os 'dach chi'n mynd i'r Alban mae gynnoch chi'r Celtic Connections, mae'r bandiau yna. Wnewch chi ddim teimlo be' 'di effaith WOMEX.

"Ond os 'dach chi'n dod i Gymru, 'dan ni'n mynd i roi pob peth i mewn iddo fo a thrawsnewid sut mae ein cerddoriaeth ni mynd i fod yn teithio allan i'r byd.

"Ac mi oeddan nhw'n hoffi hynny."

Gwaith

Dywedodd Eluned y byddai'r ŵyl yn gadael ei hôl ac y dylai cerddorion o Gymru gael gwaith yn ei sgil os ydyn nhw'n barod i weithio'n galed.

Nid y gerddoriaeth yn unig oedd yn bwysig, meddai, ond straeon y bobl.

"Y boi gafodd wobr WOMEX y llynadd, lifetime achievement, oedd rheolwr y Pussy Riot yn Rwsia... Dyna'r math o bobl fydd yn dod.

"Eleni y boi sydd wedi ennill y wobr ydy'r boi sy'n rhedeg yr Ŵyl Diffeithwch ym Mali sydd wedi cael ei banio.

"Rhein ydy'r bobl sydd reit ar yr edge."

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol