Ann Clwyd yn galw am wella system gwyno

  • Cyhoeddwyd
Ann Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ann Clwyd eisiau rhoi'r pŵer yn ôl yn nwylo'r cleifion

Mae adolygiad o'r gwasanaeth iechyd dan arweinyddiaeth Aelod Seneddol o Gymru wedi galw am "chwyldro" yn y modd mae'r sefydliad yn ymateb i gwynion.

Yn ôl Ann Clwyd, AS Llafur Cwm Cynon, byddai ei diweddar ŵr dal yn fyw pe bai ei hargymhellion wedi bod mewn grym yng Nghymru ar y pryd.

Er bod ei hadroddiad wedi ei gomisiynau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn Lloegr dywedodd Mrs Clwyd ei bod yn gobeithio y byddai'r argymhellion yn cael eu mabwysiadu yng Nghymru.

Dywedodd Mrs Clwyd fod gweinidog iechyd Cymru Mark Drakeford eisoes wedi dweud ei fod yn awyddus i glywed argymhellion yn ei hadroddiad.

"Rwy'n sicr y byddant yn awyddus i fabwysiadu rhai o'r syniadau sy'n cael eu hargymell," meddai.

Dywedodd Mrs Clwyd fod y gofal dderbyniodd ei gwr Owen Roberts yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd wedi bod yn is na'r safon fyddai rhywun yn ei ddisgwyl.

Ar y pryd dywedodd fod nyrsys wedi bod yn "oeraidd, dirmygus ac yn ddifater" tuag at ei gŵr.

Bwriad ei hadroddiad yw gwella safon gofal a sicrhau bod ysbytai yn mabwysiadu agwedd newydd a gwahanol tuag at gwynion a staff sy'n chwythu'r chwiban.

Dywed Mrs Clwyd fod sefydliadau iechyd wedi rhoi sicrwydd y bydd newidiadau yn digwydd o fewn 12 mis.

Y tri prif ffordd y bydd newidiadau yn cael eu gwneud yn ol yr adroddiad fydd drwy roi'r pŵer yn nwylo'r defnyddwyr, sicrhau newidiadau i'r system gwyno drwy gynnwys system gwyno ysbytai fel rhan o arolygiadau a gwneud yn siŵr fod prif sefydliadau sy'n ymwneud ag iechyd yn ymrwymo i newid.

Mae'r rhain yn cynnwys Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru a'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr.

Dywedodd Mrs Clwyd ei bod wedi ei synnu gyda'r "dilyw" o ohebiaeth roedd hi wedi ei dderbyn gan aelodau o'r cyhoedd ers siarad am y digwyddiadau arweiniodd at farwolaeth ei gwr y flwyddyn ddiwethaf.

"Os ydych yn anwybyddu rhywun sy'n gofyn am flanced neu gobennydd ychwanegol, sydd eisiau diod o ddŵr neu fynd i'r tŷ bach ni ddylach fod yn gofalu am gleifion.

"Mae'n rhaid i'r dyddiau o oedi, gwadu ac amddiffyn ddod i ben ac mae'n rhaid i ysbytai ddod yn llefydd agored, addysgiadol.

"Mae ein cynigion yn rhoi cleifion nol mewn rheolaeth mewn lefel mwy nag erioed o'r blaen ac rydym nawr yn disgwyl gweld cynnydd o fewn 12 mis."