Adroddiad Ysbyty Stafford: 'Angen newid sylfaenol'
- Cyhoeddwyd
Mae angen newidiadau pellgyrhaeddol yn niwylliant y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl adroddiad terfynol ymchwiliad cyhoeddus i "fethiannau ofnadwy" yn Ysbyty Stafford yng nghanolbarth Lloegr.
Dylai cleifion gael gofal cywir a phriodol, meddai.
Y gred yw bod cannoedd o bobl wedi marw'n ddiangen yn yr ysbyty yn sgil eu triniaeth rhwng 2005 a 2008.
Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths, wedi dweud bod "systemau yng Nghymru'n ddigon cadarn i sicrhau bod ansawdd a diogelwch wrth wraidd gofal yn y Gwasanaeth Iechyd".
Cost yr ymchwiliad oedd £13m a'r nod oedd penderfynu pam na sylwodd rheoleiddwyr a chyrff allanol ar broblemau yn ysbyty Stafford.
Yn y Senedd yn Llundain cyhoeddodd y Prif Weinidog, David Cameron, fod Aelod Seneddol Cwm Cynon Ann Clwyd wedi ei phenodi'n ymgynghorydd Arolwg Cwynion y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.
Dywedodd yr adroddiad fod y methiannau o'r brig i'r bôn yn y Gwasanaeth Iechyd.
Roedd rheolwyr yr ymddiriedolaeth wedi anwybyddu cwynion cleifion ac nid oedd meddygon teulu nac Aelodau Seneddol wedi dadlau'n ddigonol ar ran y cleifion.
Gwendid arall oedd bod yr ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn rhy barod i ymddiried yn rheolwyr yr ysbyty.
Cafodd y Coleg Nyrsio Brenhinol ei feirniadu am nad oedden nhw wedi gwneud digon i gefnogi eu haelodau.
Dywedodd yr adroddiad fod yr Adran Iechyd yn "rhy ynysig".
'Dychrynllyd'
Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu wedi i adroddiad Comisiwn Gofal Iechyd yn 2009 gasglu bod "safonau gofal yn ddychrynllyd".
Dywedodd Nick Triggle, Gohebydd Iechyd y BBC, fod lle i gredu bod torri costau ac anelu at dargedau yn golygu nad oedd digon o staff mewn wardiau a bod cleifion mewn perygl.
Hwn yw'r pumed prif ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd yn yr ysbyty, meddai.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru: "Mae arolwg yn ddiweddar wedi dangos bod 92% yn fodlon ar eu gofal.
"Ond ni ddylen ni laesu dwylo.
"Fe fyddwn ni'n edrych yn fanwl ar Adroddiad Francis er mwyn sicrhau na fydd methiannau Ymddiriedolaeth Canol Sir Stafford fyth yn rhan o'n diwylliant ni yng Nghymru."
Roedd y casgliadau i fod i gael eu cyhoeddi yn Hydref 2012 ond dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad Robert Francis QC fod angen mwy o amser er mwyn pwyso a mesur "swm sylweddol o dystiolaeth."
Parhaodd yr ymchwiliad am 139 o ddiwrnodau a chyflwynwyd miliwn o dudalennau o dystiolaeth.
'Yn berthnasol'
Cyn cyhoeddi'r casgliadau dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr Athro Merfyn Jones, ar raglen y Post Cyntaf: "Rhaid aros i weld yr adroddiad ond yn sicr fe fydd yn berthnasol.
"Er mai am ysbyty yn Stafford y mae'r adroddiad yn edrych, ac ar Loegr, mae'n codi cwestiwn am natur y gofal sydd i'w dderbyn yn ein hysbytai.
"Mae pawb am weld safon uchel mewn gofal a pharch at y claf.
"Mae iechyd wedi ei ddatganoli yng Nghymru ers rai blynyddoedd bellach, ac mae strwythur gwahanol yma ond mae angen edrych yn fanwl ar yr adroddiad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2012