Chwilio am £4m mewn tomen sbwriel
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gasnewydd yn ystyried chwilio drwy domen sbwriel am ddarn o gyfrifiadur allai fod yn werth £4 miliwn.
Yn yr haf fe wnaeth James Howells glirio'i ddesg adref a thaflu cof cyfrifiadur oedd yn cynnwys 7,500 o bitcoins.
Bitcoins yw'r arian dychmygol sy'n cael ei ddefnyddio yn y byd cyfrifiadurol, ac mae modd eu cyfnewid am nwyddau ar-lein.
Pan gafodd y bitcoins eu creu gan Mr Howells yn 2009, doedden nhw'n werth y nesaf peth i ddim.
Ond fe sylweddolodd ar ôl eu taflu eu bod nhw bellach wedi codi'n aruthrol yn eu gwerth, a bod y waled ddigidol sydd bellach ar domen sbwriel ar safle tirlenwi Docksway yng Nghasnewydd yn werth dros £4m.
'Syniad bras'
"Weithiau pan ydych chi'n taflu rhywbeth i'r bin rydach chi'n cael y teimlad 'mae hwn yn syniad drwg'," meddai.
"Wel mi gefais i'r teimlad yna bryd hynny.
"Does gen i ddim dyddiad pendant, dim ond rhyw syniad bras - roedd o rywbryd rhwng Mehefin 20 ac Awst 10, ond mwy na thebyg yng nghanol Gorffennaf."
Hyd yn oed bryd hynny roedd yr arian rhithwir yn werth tua hanner miliwn o bunnau, ond mae eu gwerth wedi mynd drwy'r to ers hynny.
Mae modd creu'r 'arian' drwy ddefnyddio grym eich cyfrifiadur i ddatrys problemau mathemategol cymhleth iawn.
Credir bod tua 11 miliwn bitcoin yn bodoli ac mae rhyw 3,600 yn cael eu creu yn ddyddiol.
Gellir defnyddio bitcoins i dalu am nwyddau ar-lein, ond does dim modd eu cyfnewid am arian go iawn.