Datgelu bandiau ysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae pob ysgol uwchradd yng Nghymru wedi cael sgôr a'u gosod mewn grwp o un i bump.

Mae'n asesiad o berfformiad ysgolion yn y flwyddyn academaidd 2012-13 gyda band 1 y gorau a band 5 yr isaf.

Defnyddir pedwar categori wrth asesu pob ysgol, cyn rhoi cyfanswm sgôr i bob ysgol:

  • Canran y disgyblon sy'n sicrhau pum TGAU A* i C, gan gynnwys Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg;

  • Wyth canlyniad gorau TGAU pob disgybl;

  • Perfformiad disgyblion mewn TGAU Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg;

  • Presenoldeb

Mae'r sgôr yn cael ei haddasu er mwyn rhoi ystyriaeth i nifer y plant sy'n cael cinio am ddim hefyd.

Mae'r rhan fwyaf o gategorïau hefyd yn ystyried cynnydd yr ysgol dros gyfnod o amser - er mwyn gwobrwyo ysgolion sy'n dangos perfformiad gwell.

O fewn y pedwar prif gategori, mae sgôr yn cael ei rhoi i ysgolion wedi ei seilio ar 12 mesur gwahanol.

Y sgôr gorau posib oedd 11 a'r gwaetha' oedd 44.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol