Cau ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd
- Cyhoeddwyd
Bydd ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Uned Ablett Ysbyty Glan Clwyd yn cau ar unwaith.
Yn dilyn pryder am safon gofal a diogelwch cleifion ar y ward, bydd yn aros ar gau wrth i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gynnal ymchwiliad manwl.
Yn y cyfamser, bydd nifer fechan o gleifion yn cael eu symud i unedau eraill a hyn yn dibynnu ar eu hanghenion clinigol.
Dywedodd Angela Hopkins, Cyfarwyddwr Nyrsio'r bwrdd iechyd: "Hoffwn dawelu meddwl cleifion a'u teuluoedd ein bod ni'n cymryd y mater hwn yn gwbl o ddifrif.
'Diogelwch cleifion'
Ychwanegodd: "Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau diogelwch a lles ein cleifion.
"Rydym wedi gweithredu ar frys i warchod cleifion a staff ward Tawel Fan.
"Mae ein cyd-weithwyr yn cynnal ymchwiliad manwl ac wrth i hwnnw fynd yn ei flaen, rydym wedi penderfynu cau'r ward dros dro.
"Mae nifer fechan o staff wedi eu tynnu oddi ar ddyletswyddau gofal cleifion yn ystod yr ymchwiliad.
"Bydd y ward yn ail-agor pan fydd yn ddiogel ac yn addas i wneud hynny."
Yn ogystal â'r bwrdd iechyd mae cynghorau lleol a'r heddlu yn ymchwilio a hyn yn yn rhan o gynllun Gofal i Oedolion Bregus.