Lle a phryd fydd Baton y Frenhines yng Nghymru?
- Cyhoeddwyd

Fe fydd y baton wedi ymweld â 70 o wledydd i gyd erbyn Gorffennaf 2014
Fe fydd Baton y Frenhines yn ymweld â nifer o drefi ar draws Cymru dros 7 diwrnod rhwng y 24ain a'r 30ain o Fai, 2014.
Diwrnod Un - Sadwrn, Mai 24ain, 2014
Am 11 y bore y ceir y cyfle cyntaf i weld y baton yng Nghymru, a hynny mewn parti yn hen bwll glo Six Bells ger Abertyleri.
Drwy gydol y dydd, fe fydd gweithgareddau yn cael eu cynnal yng nghanolfan hamdden Glyn Ebwy gan gynnwys Seremoni Agoriadol am 2 o'r gloch i groesawu'r baton.
Yn hwyrach yn y pnawn, am 4 o'r gloch, fe fydd y baton yn cyrraedd Parc Bedwellte, Tredegar, ar gyfer cyngerdd band pres a, gyda'r nos, fe fydd noson o focsio ym Merthyr Tudful.
Diwrnod Dau - Sul, Mai 25ain, 2014
Ar brynhawn Sul, fe fydd y baton mewn diwrnod o hwyl i'r teulu ym Mharc Aberdâr, ac erbyn y nos, fe fydd wedi cyrraedd Llandrindod.
Diwrnod Tri - Llun, Mai 26ain, 2014
Diwrnod llawn gweithgareddau ar faes Eisteddfod yr Urdd, y Bala.
Diwrnod Pedwar - Mawrth, Mai 27ain, 2014
Fe fydd y diwrnod yn dechrau yn Nhalacharn, yn dathlu canmlwyddiant geni'r bardd o Gymru, Dylan Thomas, gyda chystadleuaeth farddoni.
Erbyn canol y bore, fe fydd wedi cyrraedd Caerfyrddin ar gyfer lanisad cyfres dreiathlon i ddechreuwyr.
Cinio yn Rhydaman i ddathlu chwaraeon fydd nesaf ar lwybr y baton, cyn symud 'mlaen i Lanelli am ddathliad arall yng nghanol y dre.
Bydd y diwrnod yn gorffen yn ôl yng Nghaerfyrddin gyda noson o adloniant yn y Clos Mawr.
Diwrnod Pump - Mercher, Mai 28ain, 2014
Mewn gwasanaeth bendith yn Nhyddewi, dinas leiaf Cymru, fydd y baton ddydd Mercher, cyn symud i safle Ysgol Bro Dewi am fore o chwaraeon amrywiol gan gynnwys codi pwysau, deuathlon a gweithgareddau i'r anabl.
Fe fydd y baton yn gadael ddiwedd y bore i deithio fyny i Fachynlleth at hen senedd-dy Owain Glyndwŵr.
Fe fydd noson ddiwylliannol yn cael ei chynnal y noson honno yn y Plas, Machynlleth.
Diwrnod Chwech - Iau, Mai 29ain, 2014
Dechrau cynnar ym Miwmares cyn ymweld â set 'Rownd a Rownd' ar gyfer ymddangosiad teledu o bosib?!
Yng Nghaernarfon, fe fydd digwyddiadau yn y Ganolfan Ddringo a'r Ganolfan Hamdden, ac yna ras yn erbyn trên Llyn Padarn mewn canw.
Fe fydd ychydig o ddiwylliant ar gael yn y Galeri a ras 5 cilomedr yn cael ei chynnal o Blas Menai i Gaernarfon.
Diwrnod Saith - Gwener, Mai 30ain, 2014
Fe fydd ymweliad y bore olaf gyda chylch seiclo a thrac rasio bmx yn y Rhyl, cyn teithio'n sydyn draw i ben mynydd Moel Famau gyda grwpiau lleol.
Fe fydd y pnawn yn cael ei dreulio mewn diwrnod o chwaraeon i'r teulu yn Rhuthun.
I ddathlu taith anhygoel o amgylch Cymru, fe fydd y digwyddiad olaf yn cael ei gynnal yng nghanolfan feicio mynydd Llandegla.
Fe fydd y baton yn cael ei drosglwyddo draw i Loegr gyda'r wawr ar fore Sadwrn, y 31ain o Fai, 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2014