Gemau'r Gymanwlad: Taith Baton y Frenhines trwy Gymru

  • Cyhoeddwyd
Dawnswyr traddodiadol yn Sri Lanka yn dathlu gyda'r baton.
Disgrifiad o’r llun,

Sri Lanka oedd y bedwaredd wlad i groesawu'r baton ar ei thaith o amgylch y byd.

O Lyn Ebwy i Dyddewi, o Dalacharn i faes Eisteddfod yr Urdd yn y Bala, ac i ben Moel Famau, fe fydd Baton y Frenhines yn teithio drwy Gymru am 7 diwrnod ddiwedd Mai.

Gellir gweld manylion llawn y daith yma.

Bydd y baton yn cyrraedd Cymru ar ddydd Sadwrn, y 24ain o Fai, 2014, gyda pharti yn hen bwll glo Six Bells ger Abertyleri cyn symud ymlaen i Lyn Ebwy, Tredegar a Merthyr Tudful, ac yna i Aberdar a Llandrindod ar yr ail ddiwrnod.

Ar drydydd diwrnod y daith yng Nghymru, bydd y baton yn ymweld â maes Eisteddfod yr Urdd yn Y Bala.

Ymuno â dathliadau canmlwyddiant genedigaeth Dylan Thomas, yn Nhalacharn, fydd y baton ar ddydd Mawrth, y 27ain, cyn teithio draw i Gaerfyrddin, Rhydaman a Llanelli.

Ar bumed diwrnod y daith, bydd y baton yn ninas leiaf Cymru, Tyddewi, cyn teithio i fyny i Fachynlleth at senedd-dy Owain Glyndŵr ac yna i'r gogledd ar y chweched, ac i Fiwmares, ymweliad â set deledu 'Rownd a Rownd' a ras mewn canw o amgylch Llyn Padarn.

Bydd y baton yn Rhyl ar fore olaf y daith drwy Gymru, cyn teithio i ben Moel Famau ger Rhuthun ac yna yn cael ei drosglwyddo draw i Loegr ar fore Sadwrn, y 31ain o Fai.

Cefndir

Cychwynnodd taith baton y Frenhines, dolen allanol ym Mhalas Buckingham ym mis Hydref, gyda'r Frenhines yn gosod neges i'r Gymanwlad oddi fewn y baton.

Mascot Gemau'r Gymanwlad
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gemau'r Gymanwlad yn cael eu cynnal yn Glasgow ym mis Gorffennaf, 2014.

Yn ystod ei thaith dros 120,000 o filltiroedd, bydd y baton yn ymweld â 70 o wledydd ar draws Asia, Affrica, De a Gogledd America a'r Caribî, cyn dychwelyd yn ôl i Ewrop.

Fe fydd enwau'r rhai fydd yn cario'r baton yn cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth.

Bydd Gemau'r Gymanwlad 2014, dolen allanol yn cael eu cynnal yn Glasgow ac yn dechrau ar y 23ain o Orffennaf, 2014.