Uchel Lys: Diddymu cynllun iaith NS&I yn 'anghyfreithlon'
- Cyhoeddwyd
Mae barnwyr yr Uchel Lys yng Nghaerdydd wedi dyfarnu bod penderfyniad Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) i ddod â'u cynllun iaith i ben yn 2013 yn anghyfreithlon.
Yn dilyn adolygiad barnwrol, y cyntaf ar gais Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, cafodd penderfyniad y cwmni ei ddiddymu gan Mr Ustus Hickinbottom ac Ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman CF.
Fis Ebrill honnodd NS&I nad oedd llawer o gwsmeriaid yn defnyddio eu gwasanaethau Cymraeg a'u bod yn rhy gostus i'w cynnig.
Gofynnodd Ms Huws am adolygiad barnwrol, y tro cyntaf iddi wneud hynny dan Adran 8 Mesur yr Iaith Gymraeg 2011.
£900 y pen
Roedd NS&I yn amcangyfrif mai £900 y pen oedd cost flynyddol cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i gwsmeriaid.
Dywedon nhw mai 107 o bobl oedd wedi cysylltu gyda nhw yn Gymraeg, 0.007% o'r 1,549,577 sy'n gwsmeriaid yng Nghymru.
Fe wnaeth y comisiynydd gais am adolygiad o'r penderfyniad ym mis Medi.
Bydd rhaid i NS&I barhau gyda'r cynllun iaith hyd nes eu bod yn penderfynu newid y cynllun o fewn rheolau'r dyfarniad.
'Ddim mor ddrwg'
Dywedodd Mr Ustus Hickinbottom nad oedd y sefyllfa mor ddrwg ag yr oedd NS&I yn ei honni.
"Cyn belled ag y bo unrhyw niwed yn y cwestiwn, ni dderbyniwn fod y sefyllfa mor ddu ag yr haera CBC (NS&I)," meddai.
"Dywedwyd yn y cynllun ei hun na fyddai angen unrhyw newidiadau mewn TG (technoleg gwybodaeth), na chynigid gwasanaeth ffôn Cymraeg cyflawn, ac mai'r unig ymrwymiad o safbwynt recriwtio staff Cymraeg oedd yr angen i ailwerthuso staff sy'n siaradwyr Cymraeg yn ôl angen y cwsmeriaid.
"Ni ddangoswyd bod adfer darpariaeth ffurflenni Cymraeg a'r wefan Gymraeg yn dasg anodd."
Ychwanegodd: "I gloi, rydym wedi canfod bod penderfyniad NS&I i ddiddymu eu cynllun iaith Gymraeg o 22 Ebrill 2013 yn anghyfreithlon"
'Neges glir'
Wedi'r dyfarniad dywedodd y comisiynydd: "Nid ar chwarae bach y gwnes i'r penderfyniad i fynd ag achos i'r Uchel Lys. Ond yn dilyn cwynion gan ddefnyddwyr y gwasanaeth roedd hwn yn gam yr oeddwn i fel comisiynydd yn benderfynol o'i gymryd.
"Fy rôl i fel comisiynydd yw defnyddio grym y gyfraith i sicrhau hawliau i siaradwyr Cymraeg, ac mae'n fraint i mi fy mod wedi gallu gwneud hynny.
"Mae'r dyfarniad heddiw yn brawf fy mod yn barod i ddefnyddio fy ngrymoedd er mwyn sefyll yn gadarn dros yr iaith Gymraeg a'i siaradwyr.
"Mae'n neges glir i adrannau Llywodraeth San Steffan sy'n darparu gwasanaeth yng Nghymru na allant yn fympwyol benderfynu peidio darparu gwasanaeth Cymraeg.
"Disgwyliaf weld Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn ailafael yn y gwasanaethau Cymraeg a ddiddymwyd ganddynt yn ddi-oed."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran NS&I: "Rydyn ni'n derbyn y dyfarniad a byddwn nawr yn dechrau'r gwaith o ailddechrau ein gwasanaeth cyfrwng Cymraeg.
"Rydyn ni wedi cysylltu gyda'r Comisiynydd heddiw fel rhan o'r broses yma ac rydyn ni'n gobeithio cwrdd â hi yn fuan i drafod mewn mwy o fanylder."
Hwn oedd y tro cyntaf i achos adolygiad barnwrol fod yn Gymraeg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2013
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2013