Cymry ymhlith cneifwyr gorau'r byd
- Cyhoeddwyd
Dau ffrind o Sir Ddinbych yw'r Cymry cynta' ers broni chwarter canrif i ddod i'r brig mewn cystadleuaeth gneifio ryngwladol yn Seland Newydd.
Roedd Alun Lloyd Jones, 19, o Langollen, a Hefin Rowlands, 24, o Ruthun, wedi mynd allan i'r wlad i weithio i gwmnïau cneifio yn ardaloedd Te Kuiti a Winton pan benderfynon nhw gystadlu ym mhencampwriaeth y Golden Shears.
Ers ei sefydlu yn 1961, mae'r gystadleuaeth wedi dod yn un o'r prif ddigwyddiadau yn y byd cneifio a dim ond dau Gymro sydd wedi ennill yno o'r blaen. Alwyn Manzini o'r Bala oedd y diwetha' yn 1991.
Roedd y ddau ffrind wedi llwyddo i gwblhau eu tasgau mewn llai nag awr, wrth i Hefin ennill y gystadleuaeth ieuenctid, ac Alun gipio'r wobr i gneifwyr canolradd.
Llwyddodd Alun i gneifio'i ddefaid mewn 12 munud, 10.317 eiliad yn ei gategori o, tra bod Hefin wedi gorffen y dasg mewn 8 munud, 53.506 eiliad.
'Mewn breuddwyd'
Meddai Alun Lloyd Jones, sydd yn ôl ar fferm ei deulu, Rhydonnen Isaf, yn Llangollen, ar hyn o bryd:
"Dyma'r ail flwyddyn i mi gystadlu yn Seland Newydd. Es i allan yno i weithiau ddiwedd mis Tachwedd tan fis Mawrth.
"Roedd 'na heats i'r gystadleuaeth gynta' - lle roedda' chi'n gorfod cneifio pedair dafad. Roedd 'na bump i 'w cneifio yn y rownd gynderfynol, ac wyth yn y ffeinal."
"Roedd 'na ryw 50 o gystadleuwyr o ar draws y byd.
"Ro'n i mewn breuddwyd i ddechrau pan ddeallais i 'mod i wedi ennill, roedd yn deimlad da iawn.
"Dwi'n mynd 'nôl i Seland Newydd ym mis Tachwedd, a dw i awydd cystadlu eto blwyddyn nesa'."
Ag yntau wedi bod yn gweithio ar ei grefft ers tair blynedd, dywedodd mai "ymarfer digon" yw'r gyfrinach i ddysgu cneifio'n dda.
"Dwi'n mwynhau llawer o bethau am y gamp," meddai. "Dwi'n cyfarfod lot o bobl wahanol wrth fynd dros dŵr, gwneud ffrindiau a chael hwyl.
"Mae'n waith caled weithiau, ond pan 'da chi'n ymarfer, mae'r job yn mynd yn haws."