Agor ffordd yr A477 ar newydd wedd

  • Cyhoeddwyd
Traffic jam
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y lon newydd yn gwella amseroedd teithio

Mae ffordd newydd sy'n gwella'r A477 rhwng Sanclêr a Rhos-goch yn cael ei hagor ddydd Mercher.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mi fydd y ffordd ar gost o £68 miliwn yn lleihau amseroedd teithio.

Maen nhw hefyd yn honni y bydd yn rhoi hwb i'r economi a'r diwydiant twristiaeth.

Mae'r gwaith adeiladu wedi cynnwys 8.7 o gilomedrau o ffordd newydd rhwng Pont Newydd a Rhos-goch. Hefyd mae darn 0.9 o gilomedrau o'r ffordd rhwng Pont Newydd a chylchfan Sanclêr wedi ei gwella.

'Mwy effeithiol'

Heblaw am hynny mae gwaith wedi ei wneud i gynnal y briffordd gan gynnwys pontydd a thanffyrdd a llwybr cyhoeddus newydd. Mae llwybr ar gyfer beicwyr ac i bobl gerdded hefyd wedi ei greu sydd yn mynd o Sanclêr i Landdowror.

Y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, sy'n agor y ffordd newydd ddydd Mercher.

"Yn ogystal â bod yn rhan o'r rhwydwaith ffyrdd Traws-Ewropeaidd hollbwysig," meddai, "bydd y rhan hon o'r A477 sydd wedi'i gwella yn cynnig cysylltiadau ffyrdd mwy effeithiol i'r mentrau twristiaeth ac ynni pwysig yn Sir Benfro, gan sicrhau cysylltiadau mwy effeithiol gydag Iwerddon drwy Ddoc Penfro.

"Mae'r prosiect hwn hefyd yn dod â nifer o fanteision eraill i ddefnyddwyr ffyrdd a phobl leol drwy wella diogelwch ar y ffyrdd, creu ffyrdd osgoi ar gyfer Llanddowror a Rhos-goch a darparu llwybrau cerdded a beicio newydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol