Uned fabanod i Ysbyty Glan Clwyd

  • Cyhoeddwyd
Babi'n derbyn gofal dwys

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi mai yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan y bydd uned gofal dwys rhanbarthol i fabanod newydd anedig yn cael ei lleoli.

Fe ddaw'r cyhoeddiad yn dilyn ymchwiliad gan banel o dan gadeiryddiaeth Pennaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, Sonia Mills.

Y ddau ddewis i'r panel oedd Glan Clwyd neu Ysbyty Maelor Wrecsam, sef y ddau ysbyty lle'r oedd unedau gofal babanod cyn y newidiadau i ofal iechyd yn y gogledd gan Fwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Fe fydd y babanod newydd anedig sydd angen y gofal mwyaf dwys yn dal i gael eu gyrru dros y ffin i Ysbyty Arrowe Park yn Lerpwl.

Fe gafodd y penderfyniad gwreiddiol i symud y gwasanaeth cyfan i Arrowe Park ei feirniadu gan dri chorff - y Coleg Nyrsio Brenhinol, Coleg Brenhinol y Bydwragedd a'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig.

Roedd rhieni hefyd yn dweud y byddai'r siwrneiau hirach yn peryglu bywydau.

'Heriau a risgiau'

Dywedodd y Prif Weinidog: "Rwyf yn derbyn argymhelliad y panel annibynnol i leoli SuRNICC (Sub Regional Neonatal Intensive Care Centre)yn Ysbyty Glan Clwyd.

"Ond, rwyf yn cydnabod yr heriau a'r risgiau a nododd y panel yn ei adroddiad, a bydd angen i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â'r rhain cyn datblygu'r ganolfan yn Ysbyty Glan Clwyd.

"Mynegodd y panel sylwadau ar deyrngarwch ac ymrwymiad gwych y staff sy'n gweithio yn y ddwy uned i fabanod newydd-anedig. Rwyf yn gwybod, felly, y bydd rhai yn siomedig pan glywant y newyddion hyn.

"Yn y bôn, nod y datblygiad hwn yw darparu'r safonau gofal a'r canlyniadau clinigol gorau posibl i famau a'u babanod ar draws y Gogledd i gyd. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ni helpu i wella canlyniadau ar gyfer ein babanod a'n plant mwyaf sâl."

'Lefelau staffio'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer Gogledd Cymru, Aled Roberts:

"Mae enwi'r lleoliad yn un peth, ond mae pobl y gogledd angen sicrwydd ynglŷn â lefelau staffio ac amserlen gweithredu'r penderfyniad.

"Yn anffodus mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn hanesyddol wedi methu darparu lefelau staffio cywir o fewn unedau babanod newydd anedig.

"Ni ddylai methiannau o'r fath gael parhau i ddigwydd."

Ychwanegodd AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llŷr Gruffydd: "Arweiniodd y penderfyniad i symud i Arrowe Park at brotestiadau anferth gan orfodi'r prif weinidog i gomisiynu adolygiad wedi iddo gymeradwyo'r penderfyniad gwreiddiol.

"Er fy mod yn croesawu'r tro pedol yma fydd yn dod â chanolfan ragoriaeth i ogledd Cymru, dim ond oherwydd ymgyrchu lleol y digwyddodd hynny.

"Ni ddylai hyn fod wedi digwydd ac fe ddylai'r prif weinidog ymddiheuro i ogledd Cymru am yr oedi.

"Yr hyn sydd angen nawr yw dod â'r ansicrwydd i ben unwaith ac am byth. Mae nifer o amodau yn y datganiad ac fe ddylai'r prif weinidog roi sicrwydd ar gyllid er mwyn cyflawni argymhellion yr adroddiad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol