Efa Gruffudd Jones yn amddiffyn penderfyniad MBE
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones wedi amddiffyn ei phenderfyniad diweddar i dderbyn MBE.
Yn siarad ar Raglen Dylan Jones, dywedodd mai ei phenderfyniad hi oedd derbyn yr anrhydedd neu beidio, ac er bod peth gwrthwynebiad, ei bod hi'n "berffaith hapus â'r penderfyniad yna".
Ychwanegodd ei bod hi'n "falch iawn iawn" am ddatblygiad yr Urdd dros y ddegawd ddiwethaf, ac nad oedd y ffrae ynghylch yr MBE wedi effeithio ei gwaith.
'Penderfyniad cywir'
Yn siarad ym mis Ionawr, dywedodd un o gyn-brif weithredwyr yr Urdd ei fod yn pryderu bod y penderfyniad i dderbyn yr MBE yn mynd i achosi rhwyg o fewn y mudiad.
Ddydd Llun, dywedodd Ms Jones: "Mae hawl gan bawb i'w farn, ond dwi'n falch iawn mod i wedi cael y gydnabyddiaeth allanol yma am fy ngwaith i.
"Pan ydach chi'n cymryd penderfyniad fel hyn, dwi'n meddwl 'mod i'n ymwybodol bydde rhai ddim yn cytuno, yn naturiol, ond mi roedd e'r penderfyniad cywir i fi wneud, a dwi'n meddwl ei fod yn iawn bod gwaith sy'n hyrwyddo'r Gymraeg yn cael ei gydnabod yn allanol, a dwi ddim wedi amau hynny ers cymryd y penderfyniad."
Gwrthododd bod derbyn yr anrhydedd yn bersonol yn amharch i weithwyr yr Urdd, gan mai "llythyr personol y'ch chi'n ei dderbyn, ac anrhydedd bersonol yw e", ond dywedodd bod y misoedd diwethaf wedi bod yn rhai "diddorol".
"Dwi'n meddwl bod rhai pobol wedi teimlo'n rhwystredig nad ydw i wedi gwneud cyfweliadau dwys am y mater, a rhan o'r rheswm am beidio â chytuno i wneud cyfweliadau oedd fy awydd i sicrhau bod fy ffocws i yn llwyr ar fy ngwaith.
"Dyna dwi wedi gwneud dros y chwe mis diwetha' yw canolbwyntio ar fy ngwaith, a fyddwn ni yr wythnos hon yn cyhoeddi, gobeithio, nifer o ddatblygiadau o ganlyniad i hynny...
"Os oes pobl wedi gwneud sylwadau sydd yn feirniadol ohona'i, dyw hynny ddim wedi effeithio ar fy ngwaith i o gwbwl."
Newidiadau i'r ŵyl
Soniodd Ms Jones hefyd am y newidiadau i'r ŵyl yn dilyn adroddiad y gweithgor dan gadeiryddiaeth Nic Parry.
Dywedodd mai megis dechrau oedd y newidiadau, ac y byddai'r broses yn parhau dros "nifer o flynyddoedd".
"Mae'r Gwyddonle eisoes wedi dyblu mewn maint eleni, ac mae nifer o bartneriaid, mae 'na weithdai codio gyda chefnogaeth S4C, a Phrifysgol Abertawe'n cynnig amrywiaeth o bethau, felly mae'r Gwyddonle yn sicr yn dod yn fwy o ganolbwynt i'r maes.
"Mae 'na newidiadau eraill. Er enghraifft, mae 'na noson gyfan o ddawnsio modern, dawnsio stryd, hip-hop, disgo, ar y nos Fercher yn y pafiliwn drwy'r nos."
Yn ogystal, dywedodd y byddai adolygiad o gystadlaethau yn digwydd dros y misoedd nesaf, a bod syniadau mawr ar gyfer yr ŵyl.
"Er enghraifft, y syniad dwi'n arbennig o hoff ohono sef gael ail bafiliwn ar y maes, arena ni wedi ei alw e, lle fydd na gystadlu falle yn gallu digwydd ar ddau bafiliwn.
"Ar hyn o bryd, mae gyda ni bafiliwn gorawl a phafiliwn dawnsio sydd yn llawn i'r ymylon pan mae'r rhagbrofion yn digwydd yna, ac mae safon y cystadlu yn arbennig o uchel, mae'n biti bod dim mwy o gynulleidfa yn gallu eu gweld nhw.
"Mi fydda ail arena yn cynnig y cyfle i ni wneud y math yna o ddarpariaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2014