Non Stanford allan o'r gemau

  • Cyhoeddwyd
Stanford out of Glasgow 2014Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ni fydd Non Stanford yn cymryd rhan yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 oherwydd anaf.

Roedd Stanford, 25 yn cael ei hystyried i fod yn un o'r athletwyr oedd fwyaf tebygol o dderbyn medal gan ei bod hi'n bencampwr treiathlon y byd.

Fe gafodd ei chynnwys yn y tîm er gwaetha'r ffaith ei bod hi wedi anafu ei throed chwith yn ôl ym mis Mawrth.

Mae'r anaf diweddaraf, sef crac yn y droed, yn deillio o'r anaf hwnnw.

"Roeddwn i mor bositif ac roedd popeth yn mynd mor dda," meddai.

"Roedd digon o amser i gael pob dim at ei gilydd a gwneud yn siŵr mod i'n barod ar gyfer Glasgow.

"Felly i gael ail ergyd mor agos, mae hynny wedi bod yn anodd, ond yn anffodus mae'n rhan o'r gêm ry'n ni'n chwarae."

Ychwanegodd Stanford ei bod yn gobeithio y bydd hi'n gwella mewn pryd i allu cystadlu ar gyfer sicrhau lle yn Gemau Olympaidd Rio yn 2016.