Uchelgais Cymru: 27 medal yn Glasgow

  • Cyhoeddwyd
Logo Gemau'r Gymanwlad Glasgow

Mae tîm Cymru yn anelu at ennill 27 medal yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow.

Dyna'r her a roddwyd i'r cystadleuwyr gan y corff sydd yn ariannu'r tîm, Chwaraeon Cymru.

Bedair blynedd yn ôl yn Delhi 2010 fe gipiodd y Cymry 19 medal.

Y tro yma y nod fydd mynd gam mawr ymhellach ac ennill y nifer fwyaf erioed o fedalau i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad.

Yn ôl Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru Sarah Powell:

"Mae hwn yn uchelgais uchel - mae'n adlewyrchu ein bwriad i fod yn genedl o bencampwyr"

Nod Chwaraeon Cymru yn y tymor hir yw sicrhau mai Cymru yw'r wlad fwyaf llwyddiannus yn y gemau - yn ôl y pen o'r boblogaeth. Mae'r corff yn buddsoddi mewn chwaraeon ac yn disgwyl llwyddiant, er bod Cymru yn gymharol fach.

Yn ôl Ms Powell: "Mae bod yn fechan yn ein hysbrydoli ac yn ein gyrru ymlaen i lwyddo. Rydym yn disgwyl ennill ac rydym yn disgwyl torri sawl record...

"Mae'n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, bod ennill mewn chwaraeon elitaidd yn golygu buddsoddi ac mae angen llawer o adnoddau.

"Gallwn ni ddim rheoli canlyniadau a medalau ond fe allwn wneud pob dim posib i helpu ein hathletwyr gystadlu ar y lefel uchaf posib."

Targedau'r Tîm Ymhob Camp - Nifer o Fedalau

• Nofio: 6

• Athletau: 4

• Seiclo: 3

• Gymnasteg: 3

• Bocsio: 2

• Saethu: 2

• Chwaraeon Anabledd: 2

• Bowlio: 2

• Judo: 1

• Codi pwysau: 1

• Triathlon: 1

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol