Comisiynydd i ymchwilio i Gyngor Penfro wedi trosedd ryw
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn bwriadu ymchwilio i'r ffordd aeth Cyngor Sir Penfro ati i ddelio gyda honiadau yn erbyn uwch weithiwr ieuenctid, a gafodd ei garcharu am chwe blynedd yn ddiweddar am gam-drin plentyn yn rhywiol.
Cafodd y cyn-weithiwr ieuenctid Mik Smith ei garcharu yn Llys y Goron Abertawe yn gynharach yn y mis am gam-drin bachgen yn rhywiol ac am ffilmio'r cyfan, ond, mae'n debyg fod pryderon wedi eu codi gan weithwyr am ymddygiad amhriodol Smith tuag at blant bron i ddegawd yn ôl.
Cafodd Smith ei ddiswyddo yn 2012, ac yna aeth ymlaen i gam-drin y bachgen ar ôl gadael y cyngor flwyddyn yn ddiweddarach.
Mae prif weithredwr y cyngor wedi dweud ei fod yn hyderus na fyddai methiannau'r gorffennol yn cael eu hailadrodd.
Mae mam y bachgen a gafodd ei gam-drin wedi dweud wrth raglen Week In Week Out y dylid sefydlu ymchwiliad newydd i edrych ar y ffordd aeth Cyngor Sir Benfro ati i ymdrin â chwynion am Mik Smith yn 2005.
"Cyn belled ag y gallaf weld, pe bai pobl wedi cymryd amser a gofal i wneud eu gwaith yn iawn, buasem wedi gallu osgoi'r hyn yr ydym wedi gorfod mynd drwyddo," meddai.
"Rydym ni wedi bod drwy uffern. Rydym yn dal i fynd trwyddo."
Yn 2005 rhybuddiodd cyd-weithiwr ar y pryd, Sue Thomas, benaethiaid Cyngor Penfro drwy achwyn fod Mik Smith yn ymddwyn yn amhriodol tuag at blant, ac gallai beri risg iddynt.
Dim ond rhybudd llafar a gafodd Smith ar y pryd.
O ganlyniad i ymchwiliad rhaglen Week In Week Out, mae Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler yn dweud ei fod yn awyddus i ail-agor achos y cyngor er mwyn darganfod os yw plant y sir yn cael eu rhoi mewn perygl.
Mae'r rhaglen wedi siarad â gweithiwr cymdeithasol annibynnol a ymchwiliodd i'r honiadau yn erbyn Mik Smith ar ran y Cyngor yn 2005.
Dywedodd y gweithiwr cymdeithasol wrth y BBC ei bod wedi "synnu" fod Smith wedi cael ei ddisgyblu drwy rybudd llafar yn unig ar y pryd.
Mae'r Aelod Cynulliad Joyce Watson wedi beirniadu Cyngor Sir Penfro yn llym, gan ddweud mai'r digwyddiad diweddaraf mewn cyfres o fethiannau gan y Cyngor i ddiogelu plant rhag niwed yw'r achos hwn.
Mae hi hefyd yn galw ar i brif weithredwr y cyngor, Bryn Parry Jones - sy'n ennill mwy na £223,000 y flwyddyn - i adael y swydd.
Wrth ymateb, dywedodd Bryn Parry Jones nad oedd yr ymchwiliad gan y cyngor ar y pryd wedi dangos unrhyw dystiolaeth o weithgarwch troseddol, ac ers hynny mae'r Cyngor wedi newid ei weithdrefnau a rheolaeth yr Adran Addysg yn llwyr, ac mae'n hyderus na fyddai methiannau'r gorffennol yn cael eu hailadrodd.
Dywedodd y cyngor hefyd nad oes unrhyw reolwr o'r hen gyfarwyddiaeth Addysg a gymerodd ran yn y broses o wneud penderfyniadau yn 2005 yn cael ei gyflogi gan yr Awdurdod ar hyn o bryd.
Week In Week Out: Pŵer i Gam-drin? - NosFawrth, Gorffennaf 15, BBC 1, 22:35.