Hwyl yr Ŵyl wrth godi arian i ymgyrch Tîm Irfon
- Cyhoeddwyd

Rebecca ac Irfon Williams, sylfaenwyr Tîm Irfon
Ddydd Sadwrn bydd trigolion yng ngogledd orllewin Cymru'n dod ynghyd i gefnogi ymgyrch dyn o Fangor, sy'n codi arian ar gyfer uned ganser ei ysbyty lleol.
Penderfynodd Irfon Williams a'i wraig, Rebecca, sefydlu ymgyrch Tîm Irfon ar ôl darganfod ei fod o'n diodde' o ganser y coluddyn. Mae wrthi'n cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd ar hyn o bryd.
Pan gafodd yr ymgyrch ei lansio chwe mis yn ôl, y nod oedd codi £20,000 ar gyfer Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd.
Erbyn hyn, mae'r gwirfoddolwyr wedi codi bron i £53,000 trwy wneud pob mathau o weithgareddau a heriau.
Ddydd Sadwrn bydd Stryd Fawr Bangor yn llawn Santas o bob lliw a llun, wrth i'r ymgyrch gynnal Ras Siôn Corn fel rhan o ddathliadau Nadolig y ddinas.
Gwraig Irfon, Rebecca, sydd wedi trefnu'r ras un filltir o hyd, sy'n dechrau wrth y cloc ym Mangor, gyda'r gobaith o roi hwb Nadoligaidd i'r coffrau.
'Hwyl yr ŵyl'
Meddai: "Mae'r Ras Siôn Corn yn ffordd wych i gael pobl o bob oed a gallu i hwyl yr ŵyl, gan godi ymwybyddiaeth o, ac arian ar gyfer gwasanaethau canser lleol."
Un o brif amcanion yr ymgyrch yw tynnu sylw at bwysigrwydd iechyd meddwl cleifion canser, rhywbeth sy'n agos at galon y cwpwl, sydd wedi bod yn gweithio fel nyrsys seiciatryddol.
Mae canser yn gallu cael effaith andwyol ar stad feddyliol rhai sy'n diodde', ond yn ôl Mr Williams, gall therapïau amgen a gwasanaethau cwnsela helpu cleifion a'u teuluoedd.
Gan bod rhain yn wasanaethau ychwanegol i'r gofal iechyd sylfaenol, rhoddion elusennau sydd fel arfer yn ariannu triniaethau o'r fath.

Bydd y côr Tenovus lleol yn canu fel rhan o'r digwyddiad ddydd Sadwrn
'Cefnogaeth anhygoel'
Meddai Mr Williams: "Dros y misoedd diwetha' dwi wedi gweld pa mor anhygoel ydy'r nyrsys ar ward Alaw, ond mae gofal anhygoel angen cefnogaeth anhygoel.
"Mae'r Uned angen dros £150,000 mewn rhoddion pob blwyddyn er mwyn ariannu gwasanaethau ychwanegol sy'n helpu i wneud bywydau cleifion yn haws."
Mae nifer y bobl sy'n diodde' o ganser yn cynyddu, gyda disgwyl y bydd bron i hanner y boblogaeth yn diodde' o'r clefyd erbyn 2020.
Roedd Uned Alaw wedi gofalu am dros 1,500 o gleifion canser y llynedd.
Ychwanegodd Mr Williams: "Rydw i eisiau gwneud yn siŵr fod y staff gwych yn Alaw'n gallu parhau am flynyddoedd i gynnig gofal ychwanegol, triniaethau ac ymchwil sy'n cael ei ariannu trwy elusen Awyr Las."