Hela gyda Carwyn
- Cyhoeddwyd
Mae Carwyn Jones yn gweithio mewn swyddfa 9 tan 5 yng Nghaernarfon, ond er ei fod yn ennill ei gyflog mae o wedi penderfynu ar ddull gwahanol o fwydo ei hun am flwyddyn.
Mae Carwyn, sy'n wreiddiol o Borthmadog, am osgoi teithiau i'r archfarchnad i brynu cig a physgod drwy hela, 'sgota a chwilota pysgod, cig a chregyn. Y bwriad yw osgoi cig masnachol yn gyfangwbl.
Mae hefyd wedi penderfynu peidio bwyta cig mewn bwytai a chaffis, yn ogystal â chig y bydd pobl eraill yn ei baratoi.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs efo Carwyn am ei her anarferol:
Pam dy fod wedi dewis gwneud y sialens?
Er ei fod o'n gwestiwn hawdd mae hefyd yn un anodd i'w ateb. Mae nifer o resymau am wneud yr her yma. I ddechrau mi rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn bwyd naturiol yn ogystal â 'sgota a hela ac wrth fy modd yn cael dianc a treulio'n amser yng nghefn gwlad ar y tir neu wrth y môr.
Mae diddordeb mawr gena'i mewn gwylltgrefft (bushcraft) ac astudio'r gwahanol anifieliad a phlanhigion bwytadwy sydd ar gael.
Dwi wedi colli ffydd yn y fasnach gig, tydi free range ddim o reidrwydd yn golygu free range ac mae tystiolaeth yn profi hyn. Trwy wneud y sialens yma y fi sydd yn penderfynu beth sydd yn free range nid label ar baced.
Dwi'n treulio lot o amser yng nghwmni ffermwyr wrth hela, a tydyn nhw ddim yn teimlo eu bod yn cael chwarae teg chwaith gan fod llawer o'r cynnyrch yn cael ei yrru dramor a dim yn cael ei werthu ym Mhrydain.
Dwi'n hoff iawn o goginio ac arbrofi gyda deunydd craidd sydd gan y byd natur i'w gynnig. Dw i'n eithaf hyderus fod y wybodaeth a'r sgiliau gen i oroesi'r flwyddyn hon.
Be ti'n feddwl o'r hyn mae Bear Grylls a Ray Mears yn ei wneud?
Bear pwy? O ia, yr action man sydd yn llosgi mwy o galorïau na mae o'n ei dreulio ia? Siŵr fod o'n foi neis ond yn anffodus mae o rhy orfywiog i mi. Slofa i lawr, Bear!
Mae technegau Bear Grylls yn filitaraidd ac mae'r dull yma o oroesi yn anwybyddu'r wir grefft o fyw yn wyllt.
Mae Ray Mears ar y llaw arall yn grefftwr ac yn ŵr gwybodus. Parch mawr at y dyn. Mae'r gallu ganddo i oroesi am wythnosau o dan amgylchiadau llym a defnyddio deunydd cyfagos i'w fudd.
Beth ydi'r creadur anodda i ti hela?
Cyn gallu hela neu bysgota'n llwyddiannus mae rhaid astudio'r anifail penodol yna. Mae rhaid dod i adnabod arferion yr anifail, deall eu hymddygiad a sut maent yn addasu i'r tymhorau gwahanol yn ogystal â'r tywydd.
Tydi dod adra yn waglaw ddim o reidrwydd yn beth drwg. Mi rydw i'n dysgu trwy gamgymeriadau ac yn ymgeisio cywiro'r camgymeriad yna cyn yr allanfa nesa.
Be ti'n fwynhau fwyta o dy helfa? Ti di dysgu ryseitiau newydd?
Pan ti'n mynd i'r holl ymdrech i hela anifail mae'r bwyd wedyn yn llawer mwy na 'cig ar blât'. Mae'na stori tu ôl i sut ddaeth y cig yna ar y plât. Trwy fynd i'r holl ymdrech mi rydw i'n ceisio cyfiawnhau cymryd bywyd yr anifail trwy wneud ymdrech i'w goginio yn iawn. Mae ryseitiau yn dod yn naturiol i mi - fydda'i wrth fy modd yn arbrofi ryseitiau newydd.
Mi rydw i'n hoff iawn o'r Cyffylog (Woodcock) ond yn anffodus maent yn adar anodd iawn i'w saethu felly mi fyddai'n lwcus iawn i gael hanner dwsin mewn tymor (4 mis). Yn draddodiadol mae angen coginio Cyffylog gyda'r perfedd dal yn yr aderyn, yna ei fwyta ar dost.
Oes na rhyw gig wedi'w brosesu/'fast food' ti'n golli yn ofnadwy?
No comment
Ydi'r ffordd yma o fyw wedi newid dy agwedd di o gwbl a'r ffordd ti'n gweld y byd?
Ydy heb os nac oni bai. Mae pobol yn camddeall weithiau. Dydw i ddim yn mynd allan bob noswaith hefo gwn a saethu bob anifail sydd yn fwytadwy. Fydda'i 'mond yn cymryd beth fydda'i angen, yn aml iawn mi fyddai'n dod adra hefo'n nghynffon rhwng fy nghoesau heb lwyddo i ddod o hyd i swper.
Un o'r pethau pwysicaf am yr her ydy'r gallu i aberthu. Os dydw i ddim yn llwyddiannus pan allan yn hela, mae rhaid i mi fynd heb bryd. Felly yn aml iawn mi fyddai'n setlo am bryd llysieuol. Fydda i'n lwcus i gael dau bryd gyda chig ynddo mewn wythnos.
Pwynt arall ydy peidio â gwastraffu. Dyddiau 'ma dwi'n gwneud y mwyaf o'r anifail, hyd yn oed yn cadw'r esgyrn a'u berwi i wneud stoc. Cwningod er enghraifft - mi fydda'i yn defnyddio bob dim, y ffwr ar gyfer prosiectau ac ati.
Ond un o'r pethau pwysicaf rydw i wedi ei ddysgu yn ystod y sialens yma ydy parch tuag at fyd natur ac ymgeisio hela a physgota mewn ffordd gynaliadwy. Dydw i ddim yn hela yn yr un lleoliad yn ormodol. Mae'n bwysig hela mewn ffordd gynaliadwy.
Beth fydd ar y fwydlen dydd Nadolig?
Penderfynais fynd i chwilio am rywbeth ar gyfer cinio Nadolig ac i stocio'r pantri. Llwyddais i ddod adra gyda 4 ffesant, 2 'chwaden wyllt a 2 chwiwell (Wigeon).
Gan fod 99% o bobol yn gofyn i mi 'be nei di heb dwrci 'Dolig yma ta?' roedd rhaid i mi baratoi rwbath arbennig i 'neud pawb yn genfigennus.
Felly rhost 4 deryn fydd ar y fwydlen. Tu fewn i'r hwyaden wyllt (Mallard) mae Ffesant, tu fewn i'r ffesant mae chwiwell a thu fewn i'r chwiwell mae cyffylog. Mi ddefnyddiais i'r esgyrn i wneud stoc ar gyfer y grefi ac er mwyn gwneud pei cig hela yn y flwyddyn newydd.
Fydd y sialens yn achosi newidiadau yn hirdymor? Neu wyt ti am fynd nol i fwyta/byw fel yr oeddet ar ôl i'r sialens ddod i ben?
Amser ydy'r broblem fwyaf. Mi rydw i'n gweithio 9-5 ac mae ceisio dod o hyd i amser (ac amynedd) i fynd allan, yn aml iawn mewn tywydd garw yn anodd iawn.
Mi rydw i hefyd braidd yn bryderus fod y tymor hela yn dod i ben yn fis Chwefror felly mi fydd hynny'n rhwystro i mi hela nifer fawr o'r anifeiliaid sydd ar y fwydlen adeg yma o'r flwyddyn.
Mi rydw i'n gymharol fuan i mewn i'r sialens ar hyn o bryd ac yn barod, mae fy meddylfryd yn newid o wythnos i wythnos, felly pwy a ŵyr beth fydd fy nheimladau yn yr hirdymor.