Drama a diogelu plant ar y we

  • Cyhoeddwyd
"Mae SXTO wedi creu llawer o drafod ymhlith y cynulleidfaoedd," medd Jeremy TurnerFfynhonnell y llun, Keith Morris
Disgrifiad o’r llun,

"Mae SXTO wedi creu llawer o drafod ymhlith y cynulleidfaoedd," medd Jeremy Turner

Mae tŵf y cyfryngau cymdeithasol wedi dod a llawer o fanteision i fywydau pobl ifanc... ond mae 'na broblemau yn codi hefyd gan gynnwys bwlio, gwawdio a rhannu cynnwys amhriodol.

I gydfynd â Diwrnod Diogelwch ar y we ar 10 Chwefror mae Cwmni Theatr Arad Goch wedi bod yn cydweithio gyda cynulleidfaoedd ifanc er mwyn mynd i'r afael a rhai o'r problemau sy'n codi. Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Jeremy Turner, Cyafrwyddwr Artistig y cwmni ynglŷn â 'Sexto', y ddrama ddeilliodd o'r cydweithio:

Gefais di dy synnu wrth ymchwilio i'r testun?

Naddo a do.

Mae bwlian, camdrin, bychanu a gwawdio cyfoedion yn hen broblem ac mae Arad Goch wedi creu dramâu eraill ar y pwnc yma. Ond doedden ni ddim wedi sylweddoli mor gyflym y byddai cyfryngau cymdeithasol digidol yn cydio a dod yn ran annatod o'n ffordd o fyw - a chreu problemau cymdeithasol, personol ac emosiynol newydd.

Bethan Gwanas aeth ati i ymchwilio ar gyfer sgriptio'r ddrama ac wrth i Bethan, finne ac Angharad Lee (a gyfarwyddodd y ddrama) drafod, fe sylweddolom fod y broblem yn ehangach ac yn ddwysach o lawer nac y tybiasom.

Ffynhonnell y llun, keith morris
Disgrifiad o’r llun,

"'Dyw'r broblem ddim wedi diflannu - yn anffodus," yn ôl Jeremy

Eglura'r broses o lunio'r ddrama...

I gychwyn, fe luniodd Bethan Gwanas bum golygfa fer a gafodd eu datblygu ymhellach wrth i Angharad Lee eu hymarfer gyda'r actorion.

Cafodd y golygfeydd eu perfformio i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd fel rhan o gyflwyniad 'theatr fforwm' - sef proses pan mae'r gynulleidfa yn cael cymryd rhan i awgrymu ffyrdd gwahanol o bortreadu'r cymeriadau a'u hymatebion i'w gilydd; roedd cyfle ar ddiwedd pob golygfa i'r gynulleidfa drafod ac awgrymu ffyrdd o ddatblygu'r ddrama.

Drwy hyn oll cafwyd llawer iawn o fewnbwn a syniadau gan bobl ifanc a defnyddiwyd llawer ohonynt i lunio drama gyfan i'w pherfformio mewn ysgolion a theatrau - sef y ddrama 'SXTO'.

Mae hygrededd a chryfder y sgript yn deillio o hyn, o fewnbwn yr actorion a'r gyfarwyddwraig ac, wrth gwrs, sut mae Bethan Gwanas yn adnabod ei chynulleidfa a'i harddull ysgrifennu fywiog a chynnil.

Beth oedd ymateb y bobl ifanc?

Yr ymateb orau yw pan mae'r gynulleidfa yn sylweddoli eu bod nhw wedi cael eu tynnu mewn i'r ddrama: eu syndod at ymddygiad y cymeriadau tuag at ei gilydd; eu mwynhâd wrth weld y ferch 'ffrympi' yn ennill y blaen ar y ferch bert; eu cydymdeimlad tuag at y bachgen ansicr wrth iddo orfod troi at stafelloedd sgwrs rywiol ar-lein oherwydd ei fod yn methu dod o hyd i gariad go iawn; a'u syndod wrth weld tameidiau bach ohonyn nhw eu hunain neu eu ffrindiau yng nghymeriadau 'dychymgol' y ddrama.

Yn anad dim mae dilema'r ddrama yn cael ei chrisialu yn anallu y gynulleidfa i benderfynu pa gymeriad sydd ar fai am ddechrau'r broblem o 'sextio' - y bachgen a orfododd ei gariad dynnu llun noeth o'i hun ar ei ffôn, y ferch ei hun a dynnodd y llun a'i anfon ato, y 'ffrind' a roddodd y llun ar Facebook neu'r crwt unig am fwynhau glafoerio dros y llun.

Ffynhonnell y llun, NSPCC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r NSPCC yn ceisio annog rhieni a phlant i fod yn ddiogel ar y we

Beth oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl comisiynu drama yn ymwneud â'r pwnc yma?

Yn 2009 soniwyd mewn cyfarfod am broblem oedd yn dechrau codi'i phen - bwlian ac ymyrraeth rywiol drwy negeseuon testun a chyfryngau digidol cymdeithasol eraill.

Roedd un achos benodol mewn ysgol uwchradd wedi achosi problemau anodd a chymleth - i'r person ifanc oedd yn derbyn negeseuon anweddus a sylwadau milain ac i gymuned ehangach yr ysgol.

Cafodd Arad Goch gais i weld fydden ni'n gallu creu cynhyrchiad am y pwnc.

Prin y meddylion ni ar y pryd y byddai'r sgwrs honno yn esgor ar ddarn mor bwerus o theatr sydd wedi para dros bum mlynedd - ac yn debygol o bara'n hirach.

Pam penderfynu mynd â'r ddrama ar daith eto?

Mae'n ddrama dda a chynhyrchiad pwerus a rydyn ni'n mwynhau ei pherfformio. Mae'n adloniant da - er gwaethaf difrifoldeb y pwnc. Mae'r gynulleidfa'n mwynhau ei gweld.

'Dyw'r broblem ddim wedi diflannu - yn anffodus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ffonau clyfar wedi dod a manteision ac anfanteision yn ei sgîl