Difrod i brosiect gweilch y Dyfi
- Cyhoeddwyd

Mae gwerth miloedd o bunnau o ddifrod wedi bod i ganolfan prosiect gweilch y Dyfi, wedi i rywun dorri i mewn yn gynnar fore Llun.
Ar dudalen Facebook y prosiect, roedd neges yn honni fod ffenestri, larwm, sgriniau, y teclyn llif byw a chyfrifiaduron wedi eu malu.
Credir bod difrod gwerth £6,000 wedi'i achosi yno.
Doedd dim o'r offer wedi'i ddwyn, dim ond £70 oedd yn weddill yn y til.
Mae'r heddlu'n ymchwilio, a'r criw yn ceisio "dod i delerau â'r gwaith troseddol a gwneud y gwaith clirio".
Mewn neges arall ar dudalen Facebook y prosiect, fe ddiolchodd y criw i bawb fu'n helpu ers y digwyddiad.
Mae canolfan Cors y Dyfi ar agor ddydd Mawrth, ac mae gobaith y bydd y llif byw yn ail-ddechrau cyn diwedd y dydd.


