Llywodraeth Cymru'n lansio cynllun i drechu tlodi plant

  • Cyhoeddwyd
Plant yn chwaraeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gweinidog wedi holi yw hi'n bosib trechu tlodi plant erbyn 2020?

Mae cynllun i leihau'r nifer o blant Cymru sy'n byw mewn tlodi yn cael ei lansio gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Lesley Griffiths ddydd Gwener.

Mae'r Strategaeth Tlodi Plant Cymru, sydd wedi cael ei adolygu yn dilyn ymgynghoriad â'r cyhoedd, yn gosod sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu delio â'r lefelau presennol o dlodi yng Nghymru a gwella bywydau plant o deuluoedd sydd ag incwm isel.

Fe fydd y strategaeth yn cynnwys dau nod penodol, sef i greu economi cryf a marchnad lafur yng Nghymru i leihau tlodi ymysg pobl sydd mewn gwaith, ac i helpu teuluoedd i gynyddu eu hincwm trwy gynnig cyngor ariannol.

Yn siarad cyn lansiad y cynllun yn Wrecsam, dywedodd Ms Griffiths: "Er y bydd hi'n sialens, mae ailddatgan ein nod i gael gwared â thlodi plant erbyn 2020 yn dangos nad ydyn ni wedi colli ein ffocws ar drechu'r mater, a bydd yn sicrhau nad yw'r momentwm yn cael ei golli wrth i ni weithio tuag at ein nod."

'Pethau wedi gwella'

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud, er bod lefelau tlodi yng Nghymru yn parhau'n uchel, bod pethau wedi gwella mewn mannau pwysig.

Mae'r nifer o blant sy'n byw mewn cartrefi di-waith wedi bod yn gostwng ers 2009, tra bo'r nifer o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed sydd ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant wedi lleihau yn ogystal.

Dywedon nhw fod 32,500 o blant mwyaf difreintiedig Cymru wedi cael budd o'r cynllun Dechrau'n Deg yn 2014/15, a bod dros 200 o gynlluniau Teuluoedd yn Gyntaf ar waith ledled y wlad i helpu pobl mewn tlodi i gynyddu eu hincwm.