Crabb yn aros yn Swyddfa Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r prif weinidog David Cameron wedi bod yn enwi rhagor o benodiadau i'r Cabinet newydd, a daeth cadarnhad y bydd Stephen Crabb yn parhau fel Ysgrifennydd Cymru.
Cafodd Mr Crabb ei benodi i'r swydd ym mis Gorffennaf y llynedd fel olynydd i David Jones.
Ddydd Llun cyhoeddodd David Cameron ddyrchafiad i ddwy o weinidogion blaenllaw, gyda Amber Rudd yn cael ei phenodi yn Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd, a Priti Patel fel gweinidog cyflogaeth.
Fe fydd yna rôl arbennig i Boris Johnson. Ni fydd o yn weinidog yn y cabinet, ond fe fydd yn mynychu cyfarfodydd "gwleidyddol" o'r cabinet.
Byddai hyn yn ôl Mr Cameron yn caniatáu i'r gwleidydd "allu canolbwyntio ar ei flwyddyn olaf fel Maer Llundain".
Ymhlith y penodiadau eraill:
Jeremy Hunt yn aros fel Ysgrifennydd Iechyd
Sajid Javid fydd yr Ysgrifennydd Busnes
John Whittingdale fydd Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon
Robert Halfon fydd dirprwy gadeirydd y Ceidwadwyr, ac yn weinidog heb bortffolio
Bydd Iain Duncan Smith yn parhau fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau
Yn y cyfamser, mae arweinydd dros dro Llafur, Harriet Harman, wedi enwi aelodau newydd o gabinet yr wrthblaid.
Roedd newidiadau yn anorfod ar ôl i aelodau amlwg fethu a chael eu hail ethol i Dŷ'r Cyffredin.
Chris Leslie, fydd Canghellor yr wrthblaid yn lle Ed Balls, tra bod Hilary Benn yn olynu Douglas Alexander fel llefarydd yr wrthblaid ar faterion tramor.
Fe fydd Owen Smith, AS Pontypridd, yn parhau fel llefarydd Llafur ar Gymru.
Cafodd Chris Bryant, AS Rhondda, ei ddyrchafu i gabinet yr wrthblaid, ac fe fydd llefarydd y blaid ar Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.
Ddydd Llun cyhoeddodd Arglwydd Sugar ei bod o'n gadael y blaid Lafur.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2015