Gwella diogelwch ysbyty wedi ymosodiad
- Cyhoeddwyd
Bydd mesurau diogelwch newydd gwerth £120,000 yn cael eu cyflwyno yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni yn dilyn ymosodiad ar nyrs ar y safle.
Cafodd Royston Jones, 39 oed, o Frynmawr, ei garcharu am 15 mlynedd am geisio llofruddio ei wraig Claire yn uned ofal dwys yr ysbyty lle'r oedd hi'n gweithio.
Mae'r ysbyty nawr yn cysidro cyflogi gweithwyr diogelwch ychwanegol ar y safle.
Mae adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i bob safle sydd yn cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Roedd aelod seneddol Mynwy David Davies wedi lleisio pryderon ar ran staff yn dilyn y digwyddiad yn yr ysbyty fis Medi diwethaf.
'Ofn go iawn'
Dywedodd Mr Davies fod difrifoldeb yr hyn yr oedd wedi digwydd wedi achosi "ofn go iawn" ymysg staff am eu diogelwch ac fe alwodd ar y bwrdd iechyd i gyflwyno mesurau diogelwch llymach ar y safle.
Mae rhan gyntaf yr adolygiad diogelwch ar safle Ysbyty Nevill Hall wedi ei gwblhau. Roedd yn edrych ar ddiogelwch corfforol yr adeilad, camerâu cylch cyfyng, a systemau diogelwch hefyd.
Nawr fe fydd £120,000 yn cael ei ddefnyddio i gryfhau'r mesurau diogelwch presennol.
Dywedodd prif weithredwraig y bwrdd iechyd Judith Paget: "Mae rhan nesaf yr adolygiad, sydd yn edrych ar yr angen a'r galw posib am fodolaeth swyddogion diogelwch ar y safle, born a dod i ben."
Mewn ymateb, dywedodd David Davies: "Mae'r bwrdd iechyd wedi lleisio eu barn fod lles eu staff o'r pwys mwyaf.
"Rwyf yn falch fod camau wedi eu cymryd i gyflenwi amgylchedd waith ble gall y gweithwyr deimlo eu bod yn ddiogel ac yn cael eu gwarchod," meddai.