Patagonia: Pryder a allai'r Gymraeg ddal ei thir
- Cyhoeddwyd
150 o flynyddoedd ers sefydlu'r Wladfa, mae mwy nac erioed yn dysgu'r Gymraeg ym Mhatagonia.
Ond mae pryder gwirioneddol am ddyfodol yr iaith os nad oes camau'n cael eu cymryd i symud ei defnydd tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
Dyna mae'r Athro Robert Owen Jones, un o'r arbenigwyr pennaf ar y Gymraeg yn y Wladfa, wedi ei ddweud wrth raglen Manylu ar BBC Radio Cymru.
Wrth i ddathliadau gael eu cynnal yn yr Ariannin a Chymru eleni, mae trigolion y Wladfa yn gobeithio y bydd y pen-blwydd yn sbardun i gryfhau'r Gymraeg a'r cyswllt rhwng y ddwy wlad.
'Croesi'r bont'
Mae Luned Gonzalez o'r Gaiman, sy'n ddisgynnydd i brif sylfaenwyr Y Wladfa - Michael D Jones a Lewis Jones - yn gobeithio y bydd "pobl o dras Gymreig sydd yn siarad Cymraeg yn fwy parod i ddal ymlaen i siarad a bod 'na lawer mwy yn cymryd diddordeb mewn dysgu'r iaith a bod yn ddigon 'styfnig i groesi'r bont".
Y bont sydd gan Luned mewn golwg yw'r bont rhwng dysgu neu loywi'r Gymraeg mewn gwersi, a'i defnyddio'n gymdeithasol ar y stryd, yn y siop, yn y dafarn a thu hwnt.
O ran yr ystafell ddosbarth, mae sefyllfa'r Gymraeg yn gryf iawn yn Y Wladfa.
Yn ôl adroddiad diweddaraf Cynllun yr Iaith Gymraeg, roedd 1174 o bobl yn mynychu cyrsiau Cymraeg yno yn 2014 - y nifer uchaf yn hanes y cynllun, yn mynychu 90 o ddosbarthiadau - y nifer mwyaf erioed i gael eu cynnal.
Cynllun yr Iaith Gymraeg
Er bod athrawon gwirfoddol wedi bod yn gweithio mewn llefydd fel y Gaiman ar ddiwedd y nawdegau, nid oedd strwythur addysgol swyddogol yn bodoli nes i Gynllun yr Iaith Gymraeg gael ei sefydlu yn Nhalaith Chubut yn 1997.
Ers hynny mae 3 athro o Gymru wedi mynd i dair ardal wahanol yn flynyddol - Trelew a'r Gaiman yn Nyffryn Camwy, ac Esquel yng Nghwm Hyfryd.
Mae'r cyfan yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru sy'n rhoi £56,000 y flwyddyn, Y Cyngor Prydeinig yng Nghymru sy'n rhoi £15,000 y flwyddyn, a Chymdeithas Cymru Ariannin sy'n cyfrannu £4,000.
Ar wahân i'r £90,000 y flwyddyn mae Ysgol Gymraeg Llundain yn ei dderbyn yn flynyddol, yr Ariannin yw'r unig le tu allan i Gymru sy'n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg Gymraeg.
'Gweddnewid'
Yn ôl Gareth Kiff o Ganolfan Gymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd a Monitor Academaidd y Cynllun, mae'r Cynllun wedi "gweddnewid pethau" yn Y Wladfa ac mae Luned Gonzalez yn mynd mor bell ac awgrymu bod y Cynllun wedi achub y Gymraeg ymhlith y genhedlaeth iau.
"Mae'r to 30 oed ac iau wedi cael y Gymraeg diolch i'r prosiect" meddai.
A bellach, mae ysgolion newydd dwyieithog hefyd yn cael eu sefydlu.
Fe agorodd Ysgol yr Hendre yn Nhrelew yn 2006, ond erbyn hyn mae Ysgol Feithrin y Gaiman yn y broses o dyfu'n ysgol gynradd ddwyieithog, a chynlluniau ar y gweill i agor Ysgol y Cwm draw yn Nhrevelin.
Ond er bod llywodraeth y dalaith yn cyfrannu tuag at yr addysg, ysgol breifat yw Ysgol yr Hendre, sy'n golygu bod rhieni'n gorfod talu i sicrhau addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Sbaeneg ar gyfer eu plant.
Dirywiad cymdeithasol y Gymraeg
Felly, mwy o ddosbarthiadau a mwy yn dysgu - ond faint sy'n siarad yr iaith ym Mhatagonia yn 2015?
Yn ôl yr arbenigwyr mae'n anodd iawn dweud faint sy'n gallu'r Gymraeg - cyn lleied â 5,000 o bosib, sy'n debyg i boblogaeth tref Blaenau Ffestiniog, lle daeth rhai o deithwyr gwreiddiol y Mimosa.
Ond y pryder mwyaf ym mlwyddyn y dathlu yw bod llai nac erioed yn defnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol.
Ac yn hyn o beth, mae'r sefyllfa'n debyg iawn i Gymru, yn ôl Gareth Kiff.
Ond wrth i'r Wladfa golli mwy a mwy o'r to hŷn a gafodd eu magu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae yna bellach fath newydd o siaradwyr Cymraeg ym Mhatagonia - dysgwyr.
Ac er eu bod nhw'n ymfalchio yn eu hetifeddiaeth Gymreig a'r ffaith eu bod yn dysgu'r Gymraeg, anaml iawn y maen nhw'n ei defnyddio'n gymdeithasol yn ôl Camila Irainni, sy'n 26 oed ac yn byw yn y Gaiman, Dyffryn Camwy.
Y Sbaeneg sy'n dod yn naturiol iddyn nhw fel Archentwyr, meddai Mr Kiff, ond mae Camila'n croesawu'r cyfle i sgwrsio gyda phobl o Gymru ac yn gofyn i fwy o bobl ifanc ymweld â'r Wladfa i newid y canfyddiad o'r hen iaith fel iaith y genhedlaeth hŷn yn unig.
Y Gymraeg yn dal ei thir
Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg eisoes yn cwmpasu gwaith Menter Patagonia sy'n ceisio taclo'r broblem hon a chynnig cyfloedd i bobl Y Wladfa ddefnyddio'r iaith mewn cyd-destun cymdeithasol.
Ond mae'r Athro Robert Owen Jones yn credu bod angen mwy o fuddsoddiad i ddatblygu'r gwaith yma ymhellach.
Fe ofynnodd Manylu i Lywodraeth Cymru os oedd bwriad ganddyn nhw i fuddsoddi ymhellach yng Nghynllun yr Iaith Gymraeg eleni?
Wrth ymateb, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cyfrannu £56,000 y flwyddyn at y Cynllun a'u bod nhw hefyd "wedi rhoi arian i Gyngor Prydeinig Cymru dros ddwy flynedd i gynllunio rhaglen o weithgareddau i ddathlu 150 mlynedd ers i'r Cymry gyrraedd Patagonia."
Dim mwy o arian uniongyrchol ar gyfer addysg Gymraeg na gwaith Menter Patagonia felly.
Ond beth mae hynny'n ei olygu ar gyfer dyfodol y Gymraeg ym Mhatagonia?
Canrif a hanner ers sefydlu'r Wladfa, oedd yn galluogi'r Cymry i gynnal y gyfraith, byd busnes, eu capeli a'u hysgolion drwy gyfrwng y Gymraeg, cymysg yw sefyllfa'r iaith erbyn heddiw.
Ond mae'n dal ei thir.
Ac er bod yr Athro Robert Owen Jones yn obeithiol y bydd y Gymraeg i'w chlywed ym Mhatagonia mewn hanner can mlynedd arall, mae'n rhybuddio bod cymdeithasoli'r iaith ac "ymestyn ei defnydd o'r dosbarth i'r gymuned yn gwbwl, gwbwl angenrheidiol".
Bydd rhaglen Manylu yn cael ei darlledu am 13:30 ar ddydd Iau, 28 Mai ar Radio Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2015
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd4 Awst 2014