Plant mewn gofal yn 'cael eu symud yn rhy aml'

  • Cyhoeddwyd
Person ifancFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o bob 20 o bobl ifanc yn eu harddegau yn byw ag o leiaf eu 10fed teulu mewn gofal

Mae dau o bob pump o bobl ifanc yn eu harddegau yn byw gyda'u trydydd teulu maeth ers iddynt ddechrau derbyn gofal, yn ôl arolwg newydd.

Mae'r arolwg gan Y Rhwydwaith Maethu, oedd yn cwmpasu dros 1,600 o blant a phobl ifanc wedi'u maethu, yn nodi dechrau Pythefnos Gofal Maeth yr elusen.

Fe wnaeth yr arolwg ddarganfod hefyd bod:

  • Un o bob pedwar o bobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi'u maethu yn byw ag o leiaf eu pedwerydd teulu mewn gofal;

  • Un o bob chwech o bobl ifanc yn eu harddegau yn byw ag o leiaf eu pumed teulu mewn gofal;

  • Un o bob 20 o bobl ifanc yn eu harddegau yn byw ag o leiaf eu 10fed teulu mewn gofal.

Dywedodd yr elusen bod y darganfyddiadau'n dangos yr angen i ddarganfod mwy o deuluoedd maeth, ac yn enwedig, mwy o deuluoedd sy'n barod i groesawu pobl ifanc yn eu harddegau i'w cartrefi.

Cefnogaeth Sheen

Mae'r ymgyrch wedi derbyn gofal gan y Cymro adnabyddus, Michael Sheen, a ddywedodd: "Bob diwrnod, bydd 3,650 o deuluoedd yn deffro, yn gwisgo amdanynt, ac yn mynd ati i wneud bywyd yn well i thua 4,500 o blant.

"Nhw yw'r arwyr beunyddiol sy'n newid y byd i'r plant sy'n cael eu maethu sy'n byw gyda nhw.

"Eleni yn unig, mae angen dros 550 yn rhagor o deuluoedd maeth yng Nghymru fel ein bod yn gallu sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael gofalwyr llawn cariad i gwrdd ag anghenion unigryw pob plentyn."

Ychwanegodd Dr Emily Warren, cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru: "Mae gennym i gyd gyfrifoldeb dros wneud yn sicr y caiff plant a phobl ifanc y sicrwydd a'r sefydlogrwydd y mae arnynt eu hangen fel y gallant ffynnu.

"Mae plentyndod yn rhy fyr i'w wastraffu, a gall gofalwyr maeth helpu'r rheiny nad ydynt wedi cael y dechreuad gorau i allu mwynhau'u bywyd ac i dyfu i fod yr oedolion y mae arnynt eisiau bod."