Dau ddyn wedi marw wrth nofio yn Llanberis fore Sul
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi marw wrth nofio ger rhaeadr yn Llanberis fore Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad, ger rheilffordd Trên yr Wyddfa, am 08:30.
Dywedodd Alex Goss o Heddlu Gogledd Cymru: "Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad am 08:30 fore heddiw ac fe fu ymateb ar y cyd rhwng gwahanol asiantaethau brys - sydd yn cynnwys uned achub tanddwr yr heddlu, Gwasanaeth Tân ag Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Thîm Achub Mynydd Llanberis.
"Fe ddigwyddodd y digwyddiad mewn rhaeadr ger rheilffordd Trên yr Wyddfa, ar ôl i bedwar dyn oedd wedi mynd i nofio yn yr ardal fynd i drafferthion.
"Gallaf gadarnhau fod dyn 33 oed a dyn 21 oed wedi marw yn ystod y digwyddiad.
"Cafodd dau ddyn, sydd yn 27 a 25 oed, eu cludo i'r ysbyty ond maen nhw wedi eu rhyddhau erbyn hyn."
Yr ymdrech achub
Dywedodd Rob Johnson, cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis: "Am 08:35 y bore 'ma fe gafodd aelodau Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw i ddigwyddiad yn Rhaeadr Llanberis.
O fewn pum munud i dderbyn yr alwad, roedd tri o'n haelodau wedi cyrraedd y lleoliad ac wedi llwyddo i achub un person o'r dŵr. Wrth wneud hyn fe ddangosodd yr aelodau ddewrder a gallu rhyfeddol, gan roi eu bywydau eu hunain mewn peryg.
"Roedd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Sgwadron 22 o'r Awyrlu ar y safle yn sydyn, ac fe ddaeth cefnogaeth yn hwyrach gan Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen a deifwyr yr heddlu.
"Fe drodd ymdrechion yr achubwyr at geisio darganfod y ddau berson oedd ar goll ar y pryd, ac fe gafodd y ddau eu tynnu o'r dŵr yn ddiweddarach.
"Mae ein meddyliau nawr gyda theuluoedd a ffrindiau'r ddau a fu farw ac rydym yn diolch i bob asiantaeth a fuodd o gymorth yn ystod yr ymdrech achub."