Dysgwr y Flwyddyn: Pump yn y ras

  • Cyhoeddwyd
Neuadd Gregynog
Disgrifiad o’r llun,

Plas Gregynog oedd lleoliad y rownd gyn-derfynol eleni

Ar ddiwedd diwrnod hynod lwyddiannus yn Ngregynog, cyhoeddwyd manylion y rheiny sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau eleni.

Yn ôl yr eisteddfod: "Oherwydd bod y safon yn arbennig o uchel eleni, nid oedd modd cytuno ar bedwar yn unig ac felly, bydd pump o ddysgwyr Cymraeg yn cael mynd i'r rownd derfynol a gynhelir ar Faes yr Eisteddfod ym Meifod, ddydd Mercher 5 Awst."

Fe fydd canlyniad y gystadleuaeth yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig y noson honno yng Ngwesty Llyn Efyrnwy, Llanwddyn.

Enwau'r rheiny ar y rhestr fer yw Gari Bevan, o Bedlinog, Deiniol Carter, o Gaerdydd, Debora Morgante, o Rhufain, Dianne Norrell, o Sir Drefaldwyn a Patrick Young o Lan Ffestiniog.

Meddai Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod, "Unwaith eto eleni, mae'r safon wedi bod yn eithriadol o uchel yn y gystadleuaeth ac mae'r cystadleuwyr a'r beirniaid wedi cael diwrnod ardderchog yng Ngregynog.

"Mae hanes rhai o'r cystadleuwyr a'u taith i ddysgu Cymraeg yn ysbrydoliaeth, ac mae pawb wedi bod mor frwdfrydig wrth sôn am fynd ati i ddysgu'r iaith. Gobeithio y bydd y pump yn y rownd derfynol yn ysbrydoli ac yn annog eraill i fynd ati i ddysgu Cymraeg"

Fe ymunodd enillydd y llynedd, Joella Price, sy'n nyrs gofal dwys yng Nghaerdydd, â'r ymgeiswyr yng Ngregynog ar gyfer sesiwn cwestiwn ac ateb ddydd Sadwrn.

pafiliwn pinc

'Gweithio'n arbennig o dda'

Yn ogystal â chynnal cystadlaethau ar gyfer dysgwyr, mae'r Eisteddfod yn cynnal nifer o sesiynau ar gyfer busnesau ardal Maldwyn a'r Gororau i'w hannog i ddefnyddio'r Gymraeg gydag ymwelwyr yn ystod yr Eisteddfod eleni.

Meddai Catrin Evans, Swyddog y Dysgwyr yn yr Eisteddfod: "Rydym wedi bod yn cynnal sesiynau blasu ar gyfer busnesau lleol wrth i'r Eisteddfod deithio o amgylch Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac maen nhw'n gweithio'n arbennig o dda.

"Mae'n gyfle i helpu staff i gynnal sgyrsiau byr gyda chwsmeriaid yn y Gymraeg, a'r gobaith yw y bydd nid yn unig yn rhoi hyder i fusnesau ddefnyddio'r iaith gydag ymwelwyr yn ystod ac ar ôl yr ŵyl, ond hefyd y bydd amryw yn mynd ati i ddysgu Cymraeg ar ôl yr Eisteddfod.

"Efallai y bydd un o enillwyr Dysgwr y Flwyddyn y dyfodol yn dechrau dysgu yn un o'r sesiynau hyn - pwy â ŵyr!"

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.