Cyngerdd i gofio Elliw
- Cyhoeddwyd
Mae cyngerdd arbennig wedi ei gynnal yng Nghaernarfon ar nos Wener 19 Mehefin i gofio merch "benderfynol" fu'n "brwydro tan y diwedd" a fu farw fis Chwefror wrth aros am drawsblaniad aren a phancreas newydd.
Roedd Elliw Llwyd Owen o'r Bontnewydd ger Caernarfon yn 40 oed ac wedi bod yn cael triniaeth dialysis am wyth mlynedd.
Roedd hi'n amlwg iawn yn y byd cerdd dant ac wedi ennill llu o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Eisteddfod yr Urdd dros gyfnod o dros 30 mlynedd.
Rhieni Elliw, y Prifardd Geraint Lloyd Owen a Iola Lloyd Owen, a drefnodd y cyngerdd coffa i'w merch yng Nghapel Salem gyda Chôr Rygbi Gogledd Cymru, Côr Seiriol, Piantel a TRIO.
Dywedodd ei mam, Iola, fod y noson yn gyfle i gofio am eu merch a oedd yn aelod o ddau o'r corau oedd yn cymryd rhan. Mae ei mam a'i chwiorydd, Ffion ac Awen, yn dal yn aelodau o'r corau hynny: Ffion yng Nghôr Seiriol a Iola ac Awen yng Nghôr Rygbi Gogledd Cymru.
"Roedd hi'n canu ers pan oedd hi'n ddim o beth," meddai Iola. "Roeddwn i'n edrych drwy ei hen dystysgrifau yn ddiweddar ac mi ddois ar draws ei thystysgrif gyntaf - gwobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd pan oedd hi'n ddim ond pump oed."
"Roedd hi hefyd yn canu deuawdau gyda'i chwaer ieuengaf, Awen, ac yn rhyfedd iawn fe ofynnodd i Awen adeg y Nadolig a fasa hi'n gêm i gystadlu ar y ddeuawd gerdd dant yn Eisteddfod Meifod, felly mae hynny'n dangos ei bod yn dal i deimlo y basa hi'n gallu."
'Byw mewn gobaith'
Fe wnaeth Elliw ddarganfod yn 14 oed fod ganddi glefyd y siwgr. Un o sgîl effeithiau clefyd y siwgr ydy bod yr arennau yn gallu methu a chafodd Elliw wybod yn 2006 fod arni hi angen aren a phancreas newydd.
Bu'n byw mewn gobaith o gael y trawsblaniad organau am wyth mlynedd tra'n cael triniaeth dialysis i'w chadw'n fyw.
"Yn ystod yr wyth mlynedd honno roedd hi'n gorfod mynd i Ysbyty Gwynedd dri diwrnod yr wythnos, Llun, Mercher a Gwener, a'r dialysis yn para pedair awr ar y tro," meddai ffrind i'r teulu, Gwyn Parri, sydd wedi helpu i drefnu'r cyngerdd gyda'i wraig, Annette Bryn Parri.
"Roedd hynny yn ei hun yn gystudd ond roedd na sgîl effeithiau anffodus iawn i'r salwch ac mi fuodd Elliw, fel nifer o rai eraill, yn anlwcus mewn ffordd," ychwanegodd.
Cafodd Elliw ei galw ddwywaith o fewn mis i ddweud fod organau ar gael iddi. Y tro cyntaf fe gafodd ei hedfan i Gaerdydd ar frys mewn hofrennydd i gael y trawsblaniad ond canfu'r meddygon funud ola' fod nam ar yr organau.
A'r ail dro roedd yr organau'n anaddas eto.
Yna fe ddaeth hi i'r amlwg fod aren ei chwaer, Ffion, yn addas i Elliw ond ar fore'r trawsblaniad yn Lerpwl mi roedd gan Elliw haint ar ei gwddw a phenderfynodd meddygon na fyddai'n ddigon da i gael y lawdriniaeth.
Fe gafodd ei rhoi nôl ar y rhestr aros am drawsblaniad dwbl, yr aren a'r pancreas, ddiwedd 2014 ond ddaeth yr alwad ddim mewn pryd.
'Brwydro tan y diwedd'
"Roedd hi'n eithriadol o ddewr," ychwanegodd Gwyn Parri "toedd ganddi ddim ofn marw, doedd hi byth yn cwyno oherwydd pan oedd pobl yn gofyn iddi sut oedd hi - 'Champion, sut dach chi?' fyddai ei hateb."
"Fe fuodd hi'n anlwcus iawn," meddai Iola hefyd, "mi fysa llawer un wedi rhoi'r ffidil yn y to ond roedd hi'n brwydro tan y diwedd ac yn benderfynol iawn.
"Dyna ddaru ei chynnal hi cyhyd dwi'n meddwl."
Wnaeth ei salwch ddim ei rhwystro rhag byw bywyd mor llawn â phosib.
Rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd enillodd 28 o wobrau cyntaf, ail neu drydydd am ganu cerdd dant mewn 34 mlynedd.
Yn ogystal â chanu gyda chorau roedd yn teithio Cymru a thu hwnt ar un cyfnod fel un o leisiau cefndir y band Ap Ted a'r Apostolion, band teyrnged i Edward H Dafis a chaneuon Geraint Jarman.
Roedd yn gweithio fel cymhorthydd ysgol i ddisgyblion ag anghenion arbennig yn Ysgol Syr Hugh Owen ac Ysgol Dyffryn Ogwen ac fe fu hefyd yn gweithio yn yr un maes gydag oedolion.
"Mae hynny'n dangos sut gymeriad oedd hi yn ei bywyd bob dydd," meddai Gwyn Parri.
'Codi arian'
Rheswm arall dros drefnu'r cyngerdd ydy er mwyn parhau gyda gwaith Elliw o godi ymwybyddiaeth ac arian at elusennau sy'n ymwneud â chlefyd yr arennau am fod Elliw ei hun wedi codi dros £15,000 tuag at Gymdeithas Clefyd yr Arennau yn ystod ei salwch.
Roedd hi'n llais cryf dros newid y system roi organau yn y DU fel bod pobl yn gorfod cofrestru i eithrio allan os nad ydyn nhw am i'w horganau gael eu defnyddio wedi iddyn nhw farw, yn hytrach na'r system bresennol sy'n dibynnu ar bobl sy'n cofrestru i roi eu horganau neu ar ganiatâd eu teuluoedd.
Mi fydd y system newydd hon o 'ganiatâd tybiedig' yn dod i rym yng Nghymru fis Rhagfyr 2015 wedi i Lywodraeth Cymru basio Deddf Organau Dynol 2013.
Ond bydd hynny'n rhy hwyr i Elliw ac i gannoedd eraill.
Dywedodd mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru yn 2009, a hithau wedi bod yn aros am drawsblaniad ers dros flwyddyn, mai "y disgwyl, a dim dyddiad pendant i allu anelu tuag ato fo..." oedd un o'r pethau anoddaf am y sefyllfa.
"Be' sy'n bwysig ydi bod pobl yn dweud eu dymuniad wrth y teulu, yn cario cardiau efo nhw, achos mae 'na gymaint o bobl sydd isio rhoi organau ond oherwydd nad ydyn nhw ddim wedi dweud wrth eu teulu neu ffrindiau neu'n cario cardiau, mae'r organau wedyn yn mynd yn wâst," meddai.
"... dwi jyst isio rhoi drosodd be' mae'r cyflwr yn ei olygu a sut fath o fywyd fysa gen i wedyn ar ôl cael y trawsblaniad.
"... os ydi person yn gwbl yn erbyn rhoi organau, dwi'n teimlo felly mai eu lle nhw, a'u dyletswydd nhw efallai, ydi cario cerdyn yn deud yn bendant 'na, dwi isio cadw'n organau i gyd, dwi ddim isio eu rhoi nhw i neb arall'."
"Os fedra i ddeud wrth un person pa mor bwysig ydi hi i gario cerdyn donor yn dweud eu bod nhw'n fodlon rhoi organau, wel dwi'n teimlo mod i wedi gwneud 'y ngwaith."
Bydd elw'r cyngerdd yn mynd tuag at sefydliadau roedd Elliw wedi cael budd ohonyn nhw, sef Ambiwlans Awyr Cymru a gwasanaeth nyrsys cymunedol ei meddygfa leol yng Nghaernarfon.
Y gobaith yw gwneud y cyngerdd yn rhywbeth blynyddol os bydd y gynta' yn llwyddiannus.
Roedd Gwyn Parri yn siarad ar raglen Bore Cothi, Radio Cymru, 2 Mehefin 2015.