Ydych chi'n gymwys ar gyfer y wisg werdd?
- Cyhoeddwyd
Sut hwyl gawsoch chi arni?
Dyma enghreifftiau o atebion cywir ar gyfer rhai o'r cwestiynau gramadeg ar bapur iaith Arholiad yr Orsedd eleni. Ydych chi'n barod i dynnu'r wisg werdd ymlaen eto?
Dewiswch 10 o'r ymadroddion canlynol. Defnyddiwch bob un mewn brawddeg i ddangos ystyr y gair neu'r ymadrodd yn glir.
i) diwedd y gân yw'r geiniog
Roedd y tŷ'n rhy ddrud i ni ei brynu - diwedd y gân yw'r geiniog bob amser.
ii) mewn gwth o oedran
Er bod Mrs Williams mewn gwth o oedran bydd hi'n cerdded milltir i'r pentre ac yn ôl bob dydd.
iii) mynd yn rhemp
Mae yfed cwrw mewn gemau rygbi yn Stadiwm y Mileniwm wedi mynd yn rhemp, ac mae'n difetha fy mwynhad o'r gemau.
iv) dan ei sang
Roedd y capel dan ei sang ar gyfer yr angladd am fod pawb yn y pentre eisiau talu teyrnged i'r diweddar Mr Roberts.
v) dal pen rheswm
Rydych chi'n methu dal pen rheswm gyda'n cymdogion ni achos dydyn nhw byth yn gwrando ar farn neb arall.
vi) fel lladd nadroedd
Bu Alun wrthi fel lladd nadroedd yn y gegin drwy'r bore ac yn y diwedd roedd tair teisen yn barod gydag e.
Mae dau gamgymeriad ym mhob un o'r wyth brawddeg ganlynol. Gall fod yn wall cystrawen, treiglo, neu'n idiom Seisnigaidd. Ysgrifennwch yr wyth brawddeg yn gywir, gan ddefnyddio ffurfiau cywir yn lle'r gwallau.
i) Dydy o heb ateb dy cwestiwn di.
Dydy o ddim wedi ateb dy gwestiwn di.
NEU
Mae o heb ateb dy gwestiwn di.
ii) Trwy lwc, doedd y lleidr yn methu cael i mewn trwy'r ffenest.
Trwy lwc, roedd y lleidr yn methu mynd i mewn trwy'r ffenest.
NEU
Trwy lwc, roedd y lleidr yn methudod i mewntrwy'r ffenest.
iii) Ar ôl mynd i'r deintydd ddoe, mae Rhiannon yn teimlo'n fwy gwell heddiw.
Ar ôl mynd at y deintydd ddoe, mae Rhiannon yn teimlo'n well heddiw.
iv) Os mae problem yn codi yn y gwaith paid â bod swil i ofyn am help.
Os oes/bydd problem yn codi yn y gwaith paid â bod yn swil i ofyn am help.
v) Roedden nhw'n dangos Mr Morris y dref cyn iddo derbyn y swydd.
Roedden nhw'n dangos y dref i Mr Morris cyn iddo dderbyn y swydd.
vi) Roedd neb yn deall yn iawn ble roedd y wraig yn dod o.
Doedd neb yn deall yn iawn o ble roedd y wraig yn dod.
NEU
Nid oedd neb yn deall yn iawn o ble roedd y wraig yn dod.
vii) Mae dal cyfle i glywed y ddau gân ar y rhaglen heno.
Mae cyfle o hyd i glywed y ddwy gân ar y rhaglen heno.
NEU
Mae cyfle'n dal i fod i glywedy ddwy gân ar y rhaglen heno.
NEU
Bydd cyfle i chi glywed y ddwy gân ar y rhaglen heno.
viii) Pe cawn ni'r caniatâd erbyn y Pasg, byddwn ni'n rhoi'r rheolau newydd mewn lle cyn mis Awst.
Os cawn ni ganiatâd erbyn y Pasg, byddwn ni'n rhoi'r rheolau newydd yn eu lle cyn mis Awst.
Dylai fod 10 treiglad yn y darn canlynol. Ond nid yw'r awdur wedi rhoi'r un i mewn. Ysgrifennwch y paragraff eto gan roi'r 10 treiglad i mewn yn gywir.
Pan gyrhaeddodd Branwen y swyddfa y bore hwnnw teyrnasai rhyw dawelwch rhyfedd yno. Roedd dau neu dri o'r staff wrthi ar eu cyfrifiaduron, ond syllai'r lleill yn llipa o'u blaen. Yngnghornel y stafell edrychai Rhodri James allan trwy'r ffenest fawr fel dyn wedi ei barlysu.
Ni ddywedodd neb air wrth Branwen. Eisteddodd hi wrth y ddesg hir wrth ochr ei chyfaill Nia.
'Be sy'n bod?' sibrydodd Branwen wrthi.
'Mae Scott wedi cael y sac.'
Rhowch gynnig ar yr arholiad go iawn!
Mae cyfarwyddiadau llawn am y gwahanol feysydd ynghyd â'r amodau a rhestr y llyfrau gosod ar gael trwy gysylltu â threfnydd yr arholiadau Dr W Gwyn Lewis (Gwyn o Arfon) wgwyn.lewis@btinternet.com
Pob lwc!
(Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2015)
Hefyd o ddiddordeb:
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2019