O'r cymoedd i'r brifddinas
- Cyhoeddwyd
Bnawn Mawrth, fe amlinellodd Edwina Hart fanylion camau nesaf system Metro De Cymru.
Fe fydd tua £600 miliwn yn cael ei wario ar y system o fewn y pum mlynedd nesaf.
Mae'r system yn debygol o fod yn gymysgedd o reilffyrdd ysgafn a thramiau, ac mae bwriad i wella gwasanaethau trenau a chyflwyno bysiau cyflymach yng Nghaerdydd a'r Cymoedd, hynny i gyd erbyn 2020.
Bu Cymru Fyw yn holi ambell un sut effaith fyddai'r system Metro yn ei gael arnyn nhw?
Eryl Williams, perchennog cwmni Asbri Golf, sy'n teithio o'i gartref yng Nghaerdydd i'r pencadlys yng Nghaerffili
Mae'n gwbl angenrheidiol creu cysylltiadau gwell rhwng Caerdydd a'r trefi yn y cyffiniau. Mae'n gallu bod mor anodd mynd o un ardal i'r llall. Er mwyn mynd o'r Eglwys Newydd i Gaerffili, er enghraifft, mae angen mynd yn ôl i mewn i ganol Caerdydd ac wedyn yn ôl allan eto.
Wedi byw yn yr Almaen, yn Munich, 'da ni mor bell ar ei hôl hi o ran trafnidiaeth gyhoeddus o'i gymharu â fan'na. Mae popeth ar amser, yn lân, ac mae'r prisiau'n rhesymol. Fel gwlad, 'da ni angen edrych ar systemau fel yna. Mae'r trenau fa'ma yn hen, yn flêr, yn ddrud a tydi'r gorsafoedd ddim yn groesawgar.
Tasa'r system yn gwella, mae'n debyg y byddai rhaid i mi barhau i ddefnyddio car oherwydd natur fy ngwaith. Ond dw i'n siŵr y byddai ambell i aelod o'r cwmni yn dewis mynd ar drên neu fws tasa'r gwasanaeth yn well. Mi fydda hynny'n helpu lleihau nifer y ceir ar y lonydd, ac mi fydda hynny'n sicr yn beth da.
Yr Athro Stuart Cole, Athro Trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru ac arbenigwr ar bolisi ac economi trafnidiaeth
Mae'r swm heddiw [£600m] yn mynd tuag at gynllun y llywodraeth sy'n mynd i gostio tua £1.8 biliwn. Yn hynny, mae'r gwaith o drydaneiddio'r rheilffyrdd, talu am y gwaith ac yn y blaen, a hefyd prynu'r trenau.
'Dy ni'n siarad am fysus hefyd - 'dy ni angen deddf newydd o San Steffan - ma' Silk wedi dweud mai dyma'r ffordd ymlaen, felly fe fydd hynny'n costio, os yw'r gwasanaeth yn mynd i ddatblygu.
Hefyd - 'dy ni'n edrych ar dramiau yn ardaloedd tebyg i'r Rhath, i fyny at Borth Caerdydd a draw i ardal Casnewydd - mae'r ardaloedd yma angen eu newid yn gyfan gwbl, os ydi pobl yn mynd i gael eu perswadio i adael y car adref, neu wneud rhan o'r daith i'r gwaith ar y bws neu'r trên.
Rob Gaffey, Athro yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ger y Coed Duon, sy'n rhannu car i'r gwaith gyda chriw o Gaerdydd
Alla' i ond gweld pethau cadarnhaol yn deillio o ddatblygu cysylltiadau gwell rhwng canol y brifddinas ag ardaloedd cyfagos. Dwi'n rhannu car â thri arall er mwyn arbed arian a lleihau ar ein ôl-troed carbon, ond mi fyddai defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn mynd a hynny gam ymhellach.
Ma' teithio i'r gwaith yn Fleur-de-Lys, ger y Coed Duon, yn eitha' hwylus er ein bod yn mynd trwy ganol y ddinas, gan fod y traffig yn eitha' tawel pan 'da ni'n gadael am 07:15. Teithio adref sy'n anghyson, mae sawl llwybr posib ac weithiau mae'n haws neu'n gyflymach i ddewis y llwybr pellaf - sy'n mynd yn erbyn y syniad o leihau'r ôl-troed carbon. Hefyd, gall fynd trwy'r dre' fod yn boen ar y ffordd yn ôl yn y prynhawn.
Petai system Metro gyfoes, glan, rhesymol a chyson yn cael ei datblygu rhwng Caerdydd a'r Cymoedd, mi fyddai hynny'n ddatblygiad cadarnhaol. Mae'r trenau presennol yn methu ar bob agwedd - does 'na ddim teimlad o fwynhad i'w gael o ddefnyddio'r system, maen nhw'n araf, yn hen ac yn anghyfforddus. Dw i'n credu y byddai datblygu system Metro gyfoes yn sicr yn achosi mwy o bobl, gan gynnwys fy hun, i'w ddefnyddio'n gyson, ac yn lleihau'r traffig yn gyffredinol, sy'n sicr yn rhywbeth cadarnhaol am sawl rheswm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2015