Lluniau: Gŵyl Arall 2015
- Cyhoeddwyd
Roedd nifer o weithgareddau diwylliannol yng Nghaernarfon rhwng 16-19 Gorffennaf fel rhan o Gŵyl Arall. Dyma rai o'r uchafbwyntiau trwy lens y ffotograffydd Iolo Penri:

Lle well i lwyfannu gŵyl y Cofis na thu mewn i furiau'r castell?

Y gantores Nesdi Jones, sydd wedi cael cryn lwyddiant yn India, yn dod â 'chydig o ddiwylliant Bhangra i Gaernarfon

Doedd dim rhaid bod ar dir sych i fwynhau'r adloniant!

Rhai o'r criw fu'n cyflwyno dehongliadau newydd o ganeuon yr opera roc eiconig 'Melltith ar y Nyth'

Y dyn ei hun, Hywel Gwynfryn, un o awduron 'Melltith ar y Nyth' yn hel atgofion yng ngardd Palas Print

Y bytholwyrdd Meic Stevens, un o brif atyniadau'r penwythnos

HMS Morris, un o artistiaid 'Gorwelion' eleni, yn ymlacio yng nghysgod y castell

Beth sydd ar y gweill ferched?

Mae'r plant yma yn llawn dirieidi yn tydyn Dona?

"Diolch na 'naethon nhw gymaint o lanast ag Edward y Cyntaf!"

Candelas yn mynd i ysbryd yr ŵyl

Awyrgylch gartrefol iawn yn y castell

A oes heddwch? Mae Casi, merch y Prifardd Guto Dafydd, yn cael llonydd diolch i'r cyrn clustiau lliwgar

"C'mon, gwthiwch!"

Geraint Løvgreen: "Bydd cwpwrdd tlysau Wrecsam y seis yma tymor nesa!"

Mae pobl Caernarfon yn gwybod sut i joio

Roedd pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer perfformiad Geraint Jarman