Dod i 'nabod y dysgwyr: Gari Bevan
- Cyhoeddwyd
Bydd pump, yn hytrach na phedwar, yn cystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn am y tro cyntaf eleni am fod y safon cyn uched.
Y pump a ddaeth i'r brig yw Gari Bevan, Merthyr Tudful, Deiniol Carter, Caerdydd, Debora Morgante, Rhufain, Diane Norrell, Sir Amwythig a Patrick Young, Llan Ffestiniog.
Mae BBC Cymru Fyw wedi bod yn holi'r pump a thro Gari Bevan ydy hi'r tro 'ma.
Mae Gari'n byw ym Merthyr Tudful, ac roedd ei deulu'n rhan allweddol o'i benderfyniad i ddysgu Cymraeg.
Penderfynodd ef a'i wraig, Siân, anfon eu plant i ysgol Gymraeg.
Erbyn hyn, mae Siân a dau o feibion Gari'n defnyddio'r Gymraeg yn rhinwedd eu swyddi ac mae ei wyrion yn mynd i ysgolion Cymraeg hefyd.
Ers dechrau dysgu'r iaith mae Gari, sy'n gweithio yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful, yn rhan allweddol o'r criw sy'n trefnu gweithgareddau Cymraeg yn ei gymuned.
Mae hefyd yn mwynhau defnyddio'r iaith yn ei waith yn ddyddiol. Mae'i frwdfrydedd a'i ymroddiad i ddysgu Cymraeg wedi ysbrydoli amryw o'i gwmpas a oedd heb ddefnyddio'r iaith ers dyddiau ysgol.
Mae Gari hefyd yn barod ei gymwynas i ddysgwyr eraill, yn arbennig y rheiny sy'n ddi-hyder, gan gynnig cefnogaeth a chymorth mewn modd diymhongar bob tro.