Dod i 'nabod y dysgwyr: Diane Norrell

  • Cyhoeddwyd
Diane NorrellFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mae Diane yn diwtor Cymraeg i Oedolion yn y canolbarth

Bydd pump, yn hytrach na phedwar, yn cystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn am y tro cyntaf eleni am fod y safon mor uchel.

Y pump a ddaeth i'r brig yw Gari Bevan, Merthyr Tudful, Deiniol Carter, Caerdydd, Debora Morgante, Rhufain, Diane Norrell, Sir Amwythig a Patrick Young, Llan Ffestiniog.

Mae BBC Cymru Fyw wedi bod yn holi'r pump a thro Diane Norrell ydy hi'r tro 'ma.

Disgrifiad,

Diane Norrell sy'n wynebu cwestiynau Cymru Fyw y tro 'ma

Yn wreiddiol o Wrecsam, cafodd Diane Norrell ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg, er bod ei thad yn gallu siarad yr iaith. Roedd gan Diane ddiddordeb yn y Gymraeg pan yn yr ysgol, ond ar ôl astudio'r pwnc hyd at Safon Uwch, aeth i'r brifysgol lle graddiodd mewn Saesneg, cyn symud o Gymru a byw yn Sir Amwythig am flynyddoedd.

Ar ôl magu teulu a threulio blynyddoedd yn dysgu plant ag anghenion dysgu, daeth yn ymwybodol o'r Gymraeg unwaith eto. A hithau yn ei 50au erbyn hyn, dechreuodd fynychu dosbarthiadau Cymraeg a chael blas arni, ac aeth ati i ddefnyddio mwy a mwy o Gymraeg.

Penderfynodd hyfforddi i fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac erbyn hyn, mae'n dysgu Cymraeg yn Y Trallwng, Y Drenewydd ac yn Nhrefaldwyn, ac yn cynnal clwb coffi i ddysgwyr yn Nhrefaldwyn unwaith y mis.

Mae Diane yn parhau i fynychu Cwrs Gloywi Iaith ym Mhrifysgol Aberystwyth unwaith yr wythnos, yn ogystal â dysgu lefel Mynediad a Sylfaen, ac mae'n awyddus i fynd ati i wella'i sgiliau er mwyn ei galluogi i ddysgu lefel Canolradd hefyd yn y dyfodol.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015