Tlws y Cerddor i Osian Huw Williams

  • Cyhoeddwyd
Osian Huw WilliamsFfynhonnell y llun, Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Osian fod ennill Tlws y Cerddor yn brofiad emosiynol iawn

Osian Huw Williams sydd wedi ennill Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.

Yn gerddor amryddawn ac adnabyddus, mae Osian yn astudio gradd Meistr mewn cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd, a gellid dadlau bod cerddoriaeth a chyfansoddi yn ei waed. Mae'n adnabyddus i genhedlaeth ifanc o Gymry fel prif leisydd y band Candelas, y band a fydd yn cloi Maes B nos Sadwrn.

Yn wreiddiol o Lanuwchllyn ac yn fab i Derec Williams, un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, dysgodd Osian y gitâr a'r drymiau'n gynnar iawn. Fe'i magwyd yn sŵn a phrysurdeb ymarferion y cwmni theatr, a chafodd hyn ddylanwad mawr arno drwy'r blynyddoedd.

Dywed ei fod yn amhosibl iddo ddychmygu'i fywyd heb gynhyrchiadau, profiadau a theulu Cwmni Theatr Maldwyn. Ac mae hon yn berthynas sy'n parhau hyd heddiw, gan ei fod yn rhan bwysig o dîm 'Gwydion', yn chwarae'r drymiau yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod nos Wener diwetha'.

'Yno erioed'

Wedi'r seremoni nos Fercher, dywedodd Osian Huw Williams fod y profiad wedi bod yn un emosiynol iawn, gyda'i deulu a'i ffrindiau yn y pafiliwn i'w gefnogi.

Meddai: "Mae Cwmni (Theatr Ieuenctid) Maldwyn wedi bod yno erioed - nid bod gen i fawr o ddewis! Yr unig beth dwi'n gofio fel plentyn oedd mynd i bob theatr yng Nghymru a chwarae o gwmpas.. roedd o'n rhan o bopeth.

"Roedd o'n gyfuniad o ddau beth... gan mod i'n gwneud gradd meistr ym Mangor, roedd y gwaith yn gwneud i hynny a'r gystadleuaeth. Dyw'r arddull ddim yn sioe gerdd o gwbl...gyda chyfeiliant cerddorfa mae o 'chydig bach yn wahanol."

Eleni cyflwynwyd Tlws y Cerddor am Sioe Gerdd - un gân corws a dwy gân i unawdwyr ynghyd ag amlinelliad o'r sioe gyfan, gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gwreiddiol neu rhai sy'n bodoli eisoes.

Osian Huw Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y beirniaid fod gwaith Osian yn "ffrwydro gwreiddioldeb, yn gyffrous o gerddorol ac yn heintus o ddramatig"

'Syniad hynod o gyffrous'

Y beirniaid oedd Caryl Parry Jones a Robat Arwyn. Cafodd naw o geisiadau eu cyflwyno, gyda gwaith Deg y Cant yn dod i'r brig ac yn derbyn canmoliaeth gan y ddau feirniad.

Wrth draddodi'r feirniadaeth o lwyfan y pafiliwn nos Fercher, dywedodd Caryl Parry Jones:

"Syniad hynod o gyffrous ydi hanes Gwion Bach gan Deg y Cant. Mae'r cyfansoddwr yn awyddus i'r sioe gael ei chynhyrchu yn arddull "War Horse" gyda phypedau ac animeiddio byw yn ôl ei nodiadau ac mae'r gân "Gwion Bach" yn ddechreuad gwefreiddiol i sioe o'r fath. Mae rhywun yn gallu 'gweld' y cynhyrchiad ar y gwrandawiad cyntaf. Mae'n llawn motifs cerddorol cyffrous wrth gyflwyno'r stori mewn modd etherial ac yna tyfu a thyfu cyn cyflwyno'r wrach Ceridwen.

Osian Huw Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Osian wedi cael wythnos brysur ym Meifod rhwng perfformio gyda'r Candelas, ei rôl gyda sioe 'Gwydion', cystadlu ac ennill Tlws y Cerddor

'Ffrwydro gwreiddioldeb'

"Gyda'r strwythur harmonïol, y defnydd o unsain cryf, yr ystod lleisiol, yr offeryniaeth a'r trefniant offerynol a'r llif alawol yn y rhannau unigol, mae'n hawdd tynnu'r gynulleidfa i mewn i'r byd ffantasïol, mytholegol yma.

"Mae'n ffrwydro gwreiddioldeb, yn gyffrous o gerddorol ac yn heintus o ddramatig. Fedrwn ni ddim aros i'w gweld hi. Llongyfarchiadau i Deg y Cant am fod yn gwbl gwbl haeddiannol o Dlws y Cerddor a diolch iddo am newid gêr y Sioe Gerdd Gymraeg."

Rhoddir y Tlws gan Urdd Cerddoriaeth Cymru, a'r wobr ariannol o £750 (Cymdeithas Theatrig Ieuenctid Maldwyn) ac Ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo gyrfa'r cyfansoddwr buddugol.

Disgrifiad,

Tlws y Cerddor / Musicians' Medal